Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/292

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y mae y pechodau o anwadalwch yn eu hachosi. Llawer y sydd a addawant yn ddigon rhwydd, os byddant heb wybod nad allant gyflawni, er na wyddant y gallant. Esgor yr egwyddor hon ar lïaws o siomedigaethau.

Mae anmhrydlondeb hefyd yn dra niweidiol mewn ymarferiadau crefyddol. Dylai pob casgliad at achos parhaus gael ei wneyd yn flynyddol neu yn fisol, ar yr un pryd, gan yr un gynulleidfa yn enwedig. Gellir dadleu, mae yn wir, eu bod weithiau yn annghyfleus, ond y mae felly o eisieu gofal prydlawn; a'r prawf o hyn ni a'i gwyddom—bod rhai o'r rhai isaf eu hamgylchiadau yn brydlawn, pan y mae lluaws o rai â moddion ganddynt, ac nid hwyrach calon hefyd, oblegyd dull dïofal, yn anmharod ar y pryd, ac felly mae y peth yn myned yn ddiflas. Dechreu addoliad cyhoeddus yn brydlawn sydd hefyd o bwys. Dylai y pregethwr fod yn y fan erbyn yr amser, neu chwarter awr yn gynt, fel y dywedai Nelson; a dylai y gwrandawyr fod yr un modd yn brydlawn. Mae dyfod i mewn yn drystfawr, ar ol i'r addoliad ddechreu, yn anmharch i'r Duw a addolir, yn gystal ag yn aflonyddwch i'r dynion fyddo yn addoli. Llawer o eglwysydd a chapelydd yn Lloegr a lenwir bron mewn can lleied o amser ag yr â y dyrfa allan. Angenrheidiol yw bod cloc y capel yn ei le, mor agos ag y byddo modd, yn lle bod taeru rhwng y gweinidog a'r bobl. Dywedid gynt wrth Robert Jones, Rhoslan, sir Gaernarfon, fod yr oedfa wedi ei chyhoeddi am ddeg o'r gloch. Gofynai yntau, "Deg o'r gloch pwy? Mae gan bawb bron eu deg o'r gloch." Nid oes dim eisieu rhoddi at na thynu oddiwrth ddeddfau natur mewn dim. Y goleuad mawr a roddes Duw i lywodraethu y dydd—mae hwnw yn y dê am haner dydd yn mhob man; a dwy awr cyn hyny yw deg o'r gloch; a dwy awr gwedi yw dau o'r gloch; chwanegwch bedair drachefn, a thyna chwech o'r gloch brydnawn. Amser addoliad teuluaidd hefyd sydd deilwng o sylw. Mae ei fod yn rhy hwyr yn y prydnawn yn ei anfuddioli. Bod i ddynion fyned i addoli pan na fyddont gymhwys i ddim ond i gysgu, sydd yn gwbl annheilwng. Mae naw o'r gloch yn ddigon hwyr; a gwell dechreu yn gynt, fel y galler diweddu erbyn naw.

Rhywun, hwyrach, a ddywed, Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn? Atebwn eu bod yn bwysig; a chan hyny