gwrando, a byddai yn rhoddi crynodeb o gynnwys y bennod iddynt; a chan na wyddai pa bennod a adroddid ym mlaen llaw, yr oedd llawer yn rhyfeddu at eangder ei wybodaeth yn "Ngair yr Arglwydd." Aeth ym mlaen, a dechreuodd esbonio rhannau o'r Beibl. Bu'r Epistol at y Rhufeiniaid 'ganddo am beth amser yn ei esbonio, ac yr oedd ei sylwadau cynhwysfawr yn argyhoeddi meddyliau ei frodyr ei 'fod yn "ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd," gan ei fod yn dwyn allan iddynt "bethau newydd a hen." Ac wrth weled hefyd fod yr "Hwn a wnaeth enau i ddyn" wedi ei wneud yn "ŵr ymadroddus," fel ag y byddai bob amser yn siarad ei feddwl mewn iaith goeth, glir, a naturiol, yr oeddynt yn mynd ym fwy penderfynol nad oedd cylch y ddiaconiaeth yn ddigon eang i'w alluoedd cryfion ymddatblygu. Fel hyn, trwy " wasanaethu swydd diacon yn dda, enillodd iddo ei hunan radd dda, a hyfdra mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist lesu," a theimlai swyddogion yr eglwys y perthynai iddi—ac nid plantos mohonynt—na, cewri oedd yn y Dyffryn yn y dyddiau hynny—y dylent ei annog yn ddifrifol i ymgymryd â gwaith mawr y weinidogaeth.
Ymledodd sôn am flaenor ieuanc y Dyffryn trwy'r ardaloedd cyfagos, a dechreuodd pregethwyr a gweinidogion y sir gymryd sylw neilltuol o honno; a phob amser y cyfarfyddent ag ef byddent yn ei annog i ymaflyd yng ngwaith y cynhaeaf mawr. Gofynnai'r Parch Lewis Morris iddo, pan yn y Dyffryn un Saboth,
"Wel, Richard, ydych chwi ddim yn dechrau pregethu bellach?
"Nac wyf," atebai yntau;
"Sut felly, Richard?"
"Wel," ebe yntau yn ôl, "pe bawn yn dechrau unwaith, ni chawn roddi i fyny, hyd yn nod pe bawn yn bregethwr pur sâl."
Gofynnai cyfaill i'r Parch Daniel Evans, "A ydyw Richard Humphreys yn dechrau pregethu yn y Dyffryn acw, bellach?"
Atebai yntau, "Nac ydyw, ond gwae ni pan ddechreua, fe â o'n blaen yn ddigon pell."
Wrth weled nad oedd blaenoriaid y Dyffryn yn llwyddo i gael ganddo ymaflyd yn y gwaith, cymerodd y Cyfarfod Misol mewn llaw i'w cynorthwyo, ac anfonasant ato i