Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddymuno arno, er mwyn achos yr Arglwydd, i wrando ar lais yr eglwys. Nid oedd gan ein tadau, yn yr adeg foreuol hono ar Fethodistiaeth, ond ychydig o reolau a threfniadau gyda golwg ar y modd i dderbyn rhai i'r weinidogaeth. Os caent mewn dyn ieuangc arwyddion ei fod yn meddu crefydd bersonol, a syniad cywir am golledigaeth dyn yn yr Adda cyntaf, a'r modd i'w godi trwy yr ail' Adda, ynghyd a dawn rhwydd i osod ei feddwl allan, pob peth yn dda. Y mae yn gwestiwn genym a ydyw bod Llawer o ffurfiau i fyned trwyddynt yn ddiogelwch i'r, weinidogaeth: braidd na ddywedem nad ydyw; oblegid gall un ddyfod i fyny â llythyren rheol, a thrwy hyny hawlio rhan yn yr apostolaeth, tra ar yr un pryd y teimla pawb ei fod yn syrthio yn fyr yn wyneb ei hyspryd.

Wedi rhoddi dwys ystyriaeth i gymhelliadau ei frodyr, cydsyniodd o'r diwedd â'u dymuniad, ac addawodd bregethu y nos Sabboth canlynol; ac felly y gwnaeth Wedi esgyn i'r pulpud, dywedodd wrth y gynnulleidfa, "Peidiwch a dysgwyl ond yr un pethau genyf fi ag a fyddech arfer glywed genyf o'r blaen; nid wyf fi ond yr un yn y fan hon ag oeddwn ar lawr; ac nid wyf yn meddwl y gallaf foddhau eich hanner, a ffŵl ydyw y. dyn a amcana foddhau pawb." Yna aeth yn mlaen. Ei destyn oedd, "Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â'th hael Yspryd cynnal fi." Pregethu yn faith y byddai ar y cyntaf. A pha ryfedd? Yr oedd ei feddwl wedi ei lenwi at yr ymylon gan ei fyfyrdodau; ac wedi i'r argae gael ei agor, yr oedd yn rhaid iddo gael llawer o amser i ymwaghau. Yr oedd un nos Sabboth wedi ymollwng i bregethu; a sylwi bod y canwyllau yn darfod ar y pulpud barodd iddo ystyried y dylasai roddi fyny. Tranoeth yr oedd yn myned a'r ordd fawr fyddai ganddo yn trwsio cerig at ei gymydog, Hugh Evans, Coed-y-bachau, i gael coes newydd, ac meddai, "Mi fyddi yn rhy hir i mi dy aros: galwaf etto am dani." "Ni byddaf mor hir ag y buost ti yn pregethu neithiwr," ebai Hugh Evans yn ol. Ond nid oedd perygl iddynt dramgwyddo eu gilydd, gan eu bod yn gyfoedion ac yn gyfeillion mynwesol. Dechreuodd bregethu pan yn ddyn ieuangc naw-ar-hugain oed.