Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD III.

MR HUMPHREYS A'I HELYNTION TEULUAIDD.

O GYLCH yr amser hwn teimlodd Richard Humphreys fod yn bryd iddo feddwl am newid ei sefyllfa, a syrthiodd ei lygad ar Miss Anne Griffith—merch Capten Griffith, Quay, Abermaw, a chwaer Mrs. Cooper, Llangollen. Yr oedd Capten Griffith wedi bod yn dra llwyddiannus i gasglu cyfoeth lawer; ac yr oedd yn ŵr y teimlai ei gymdogion barch dwfn iddo. Bu yn ei flynyddoedd diweddaf yn ddiacon ffyddlon yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, a bu ei dŷ yn agored i dderbyn gweision ei Arglwydd, y rhai a fyddent yn mynd i wasanaethu'r achos i'r lle. Yr oedd yr ystyriaeth o uchafiaeth sefyllfa'r teulu yn achos o bryder mawr i feddwl Mr Humphreys gyda golwg ar lwyddiant yr anturiaeth hon oedd ar ei chymryd. Gwyddai yn dda fod y teuluoedd hynny ag y mae cyfoeth wedi dechrau rhedeg atynt yn dra gochelgar rhag gwneud dim i'w droi yn ôl, trwy oddef i briodasau anachaidd—mewn ystyr ariannol—gymryd lle. Ond os oedd coffrau'r Quay yn llawnach o aur ac arian na choffrau'r Faeldref, yr oedd Mr Humphreys yn gallu teimlo fod ganddo yntau gartref cysurus, talent i drin y byd, cymeriad difrycheulyd,' 'a lle cryf i obeithio ei fod wedi cael gafael ar " y doethineb ,sydd oddi uchod." Wedi mesur a phwyso'r holl bethau hyn, a hynny gyda'r pwyll a'r arafwch oedd yn 'nodweddu ei gymeriad ef, daeth i'r penderfyniad i wneud ei feddwl yn hysbys i Miss Griffith, a chafodd dderbyniad croesawgar ganddi. Dangosodd Mis Griffith, trwy roddi derbyniad i Mr Richard Humphreys, nad oedd fel rhai o foneddigesau ieuanc o'r un dosbarth a hi, y rhai nas gallant werthfawrogi dim ond arian ac aur. Y mae llawer ohonynt mor awyddus i gyfoeth fel na ryfeddem eu gweled yn priodi delw, pe caent gynnig arni, ond i honno fod yn ddelw aur, Ond dangosodd hi ei bod yn gwerthfawrogi dynoliaeth dda, a bod yn well ganddi gael cymar