Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bywyd yn meddu ar y gallu i drin y byd nag un a llawer o'r byd ganddo, a'i bod yn llawer tebycach o gael mwynhau cysuron bywyd gyda dyn oedd yn cael ei lywodraethu gan ofn Duw na phe buasai yn troi i gyfeiriad arall.

Wedi iddo lwyddo i weithio ei ffordd i'w mynwes, yr oedd ganddo eto yn aros i ennill cydsyniad y tad. A hynod mor rhagluniaethol y daeth hynny oddi amgylch. Digwyddodd iddo fynd gyda'r Cadben Griffith i Gymdeithasfa'r Bala, ac ar y ffordd cymerodd yr ymddiddan canlynol le:—

CADBEN. "Dylech gael gwraig, Richard Humphreys."

RICHARD HUMPHREYS. "A ydych yn meddwl hynny, Cadben?'

CAD, "Ydwyf yn sicr, Chwi ddylech gael gwraig i ofalu am y tŷ a'r tyddyn pan fyddwch chwi oddi-cartref,"

R. H. "Pe bawn wedi cytuno â rhyw ferch ieuangc am hynny, efallai na chawn hi wedyn gan y teulu."

Cad. "Os byddwch chwi a hithau yn cydsynio, nid oes achos i ofni llawer am y teulu."

Wedi arwain y Cadben fel hyn i osod rhwymau am dano ei hunan, a gwneud ei draed ef yn sicr yn y cyffion, gofynnodd Mr Humphreys, Wel, Cadben, a gaf fi Anne genych chwi? (Ni wyddai'r Cadben ' fod dim rhwng y ddau yn y cyfeiriad hwn, ac ni feddyliodd, wrth athrawiaethu ar y pwnc, y byddai galwad arno i'w droi yn ymarferol mor fuan. Ond gwelodd ei fod wedi ei ddal â rhaffau ei eiriau ei hun. Tariwyd ef yn fud gan y cwestiwn annisgwyliadwy; ond wedi i rwymau ei dafod gael eu rhyddhau, dywedodd, " Os byddwch chwi a hithau yn cydsynio, bydd pob peth yn burion gyda mi," ac ychwanegai, " ieuanc ydyw, dyna'r drwg mwyaf." "Ie," meddai Mr Humphreys, "ond daw yn well o'r drwg hwnnw bob dydd." Yr oedd pob peth wedi ei wneud i fyny gyda Mis Griffith o'r blaen, a gwnaeth yr ymddiddan hwn i fyny a'i thad. Felly ar yr 8fed dydd o Chwefror, 1822, unwyd y ddau mewn glân briodas, ac ni chawsant byth achos i edifarhau. Manteisiodd achos y Methodistiaid yn y Dyffryn yn fawr ar y briodas hon, oblegid bu Mrs. Humphreys ar hyd ei hoes a'i thŷ yn agored i dderbyn a chroesawu gweinidogion y gair; ac yr oedd y cwbl yn cael ei wneud ganddi gyda'r serchawg-