Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/294

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwyaf digymysg ychwaith rhag camgyhuddiadau. Cafodd y diwygwyr Protestanaidd eu rhan yn ehelaeth o hono gan y Pabyddion. Nid oedd fod gwirionedd o'u tu, cywirdeb eu dybenion, a sancteiddrwydd eu hymarweddiad, ond yn eu gwneyd yn fwy agored iddo. Pan oedd Mab y Goruchaf yn rhodio daear, a phob rhinwedd wedi ei bersonoli ynddo, dywedid am dano, "Wele un glwth ac yfwr gwin:" er ei fod trwy fŷs Duw yn bwrw allan gythreuliaid, cyhuddid ef gan ryw fath o ddynion o fod trwy Beelzebub yn eu bwrw hwynt allan. Ie, yn eu angeu, bu farw dan gamgyhuddiad. Ni ddiane y Duw mawr sanctaidd ac ofnadwy, y Brenin tragywyddol ac anfarwol, rhag camgyhuddiadau ei greaduriaid anwybodus. Y mae fod Duw yn goddef i'w greadur wneyd rhyw gyflafan, yn cael ei roddi yn erbyn ei gynghor a'i arfaeth ef. "Paham y mae efe eto yn beïo, canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?" Nid anfynych y clywir dynion yn rhoi trugareddau Duw yn esgus am bechu yn ei erbyn. "Y wraig (ebe Adda) a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a bwyta a wneuthum;" ac y mae y byd yn llawn o'r un peth er dyddiau Adda hyd yn awr. Côf genym glywed am un, Roli y Wern ddu, fel ei gelwid; yr oedd yn byw yn agos i Lanelltyd yn swydd Feirion; ac yn ol y pwysau a'r mesur cyffredin sydd ymhlith dynolryw, yr oedd Roli dipyn yn fyr; ac eto medrai Roli ddyfod i dŷ y nos, cystal a'r goreu. Treuliai lawer o'i amser yn Abermaw, yn adeiladu ryw fân dai ar ystlys y graig yno. Dygwyddodd i ryw gadben llong ei ddigio yn enbyd; ac er dïal ei gam, aeth Roli âg ebill yn ei law, ac a dyllodd drwy waelod llong y cadben hwnw. Adroddai yr hanes wrth gymydog iddo, gan ddywedyd fod hwn a hwn wedi bod yn gâs iawn wrtho ef, "Ond, wel di, mi dyllais dwll dan waelod ei long ef; ac fel yr oedd Duw yn mynu, mi hitiais rhwng dau goedyn, ac ni chefais fawr drafferth; hi sincith càn gynted ag yr elo i'r môr."

"Gan y gwirion ceir y gwir."

Tybiai Roli iddo gael rhwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddïal ar ei gyd—greadur; y mae llawer eto yn synio yn lled gyffelyb.

Yn awr, gan hyny, gan fod y byd yn llawn o gam-