Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/295

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyhuddiadau, ac na ddïanc neb rhagddynt, a ydyw yn rheswm coelio y cyfan a glywir, mal y gwna ambell un? oblegyd os gwneir, teimlwn ein hunain yn nghanol ellyllon ac nid yn mhlith dynion. Y mae cenfigen a malais, bwriad drwg ac anghariadoldeb yn paentio y cwbl càn ddüed a'r cythraul. Os coelir y rhai hyn, y mae yn rhaid coelio nad oes menyw ddiwair yn yr holl wlad, ond y rhai sydd newydd eu geni; fod yr holl grefyddwyr yn rhagrithwyr, fod pob dyn cynil yn gybydd, a phob dyn hael yn afradlawn, bod pawb sydd yn trin y byd yn ei garu â'u holl galon, ac nad oes na doctor na thwrne gonest yn yr holl fyd; o bydd dyn neu ddynes yn gryno a glân eu trwsiad, y maent càn falched a Lucifer; ac os bydd un yn arfer anog ei gymydog yn lled fynych i haelioni gyda ag achos yr Arglwydd, bydd yn dra sicr o gael ei gyhuddo o ariangarwch. Clywsom fod y Dr. Chalmers wedi myned i un o ynysoedd Scotland, yn lled fuan ar ol yr ymraniad, i egluro i flaenoriaid yr Eglwys Rydd yn yr ynys hono ei gynllun tuag at gynal y weinidogaeth, a dangos iddynt y rhwymau oedd arnynt i gyfranu eu hunain, ac arfer eu holl ddylanwad tuag at gael y gwahanol gynulleidfâoedd i wneuthur yr un peth. Ar ol i'r cyfarfod fyned drosodd, gofynwyd i un o'r blaenoriaid hyn, beth oedd ei feddwl am y cyfarfod ac am y Doctor? "Dyn call dysgedig yw y Doctor (meddai), ond y mae yn fydol iawn;" pan mewn gwirionedd nad oes o fewn holl gylch yr eglwys Gristionogol yr un sydd wedi dangos ei hun yn fwy rhydd oddiwrth y bai hwn. Y mae wedi aberthu miloedd o bunau er mwyn cydwybod, ac y mae mor enwog am haelioni a chymwynasau ag ydyw am ei dalentau. Ond gwyddai y blaenor ei fod ef neu y Doctor yn feius; ac yn lle cyfrif y bai yn y lle y dylasai fod, barnai y diniwed yn euog, a gollyngai yr euog yn rhydd. Ac fel y mae gwaetha'r modd, y mae gan y blaenor hwn frodyr lawer yn Nghymru.

Wele, ddarllenwyr y "Traethodydd", gan fod o leiaf haner yr anair a glywn am eraill yn gelwydd, neu o'r hyn goreu yn anwiredd, anhawdd gwybod pa haner i'w goelio. Aroswn, gan hyny, heb goelio dim drwg am frawd neu gymydog oni bydd raid. Gwyddoch yn dda fod mwy na haner y drygair a gawsoch eich hunain yn ffrwyth malais rhywrai; ac nid yw tynged eraill ond lled debyg. Y mae cenfigen fel gwibed yn disgyn ar y briw sydd ar gefn yr