Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/298

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aelod yn cael cam? Y mae natur, pa mor ddiniwed bynag y bo, yn teimlo yn gynhyrfus. Dywedodd aml un a gafodd ei gamgyhuddo, y buasai yn well ganddo gael profi ei fater yn y llys gwladol na chan swyddogion eglwysig sydd fel yr ehud yn coelio pob gair. Rheol euraidd yr Ysgrythyr yw, "Ymofyned y barnwyr yn dda. A'r henuriad na dderbyn achwyn oddieithr dan ddau neu dri o dystion, fel y byddo safadwy pob gair." Nid digon yw dywedyd fod y bobl yn siarad y wlad yn cablu yn enbyd—yr achos yn cael cam, a'r ddysgyblaeth yn myned i lawr. Y cwestiwn yw, A ydyw y brawd yn euog? ac os ydyw, i ba raddau y mae? ac wedi cael hyny allan, trinier ei fater yn ddidderbyn wyneb, ond nid yn haerllug, eithr mewn yspryd addfwynder. Gwaith llednais yw trin dysgyblaeth tŷ Dduw. Y mae ysprydoedd archolledig y cyfryw ag a oddiweddir gan ryw fai yn fynych yn galw am ffyddlondeb a thynerwch wedi eu cydgymysgu gyda doethineb. Cyfraith trugaredd sydd i fod ar wefusau yr eglwys a'i swyddogion. Nid ydym yn darllen yn y Testament Newydd am ddiarddeliad ond am bechodau ysgeler; ond yn rhywfodd, yn eglwysi Cymru, y mae dysgyblaeth mewn amgylchiadau amheus yn gwneyd mwy o niwed na phan byddo y bai yn amlwg ac yn warthus. Tardd hyn, y mae yn debyg, o eisieu mwy o'r "yspryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werthfawr." "Na fernwch fel na'ch barner, canys â pha fesur y mesur och, yr adfesurir i chwithau.'

Bellach, frawd cyhuddedig, bydd ddyoddefgar. Nid tydi yw y cyntaf fu yn dyoddef cam: felly y cafodd Moses a'r prophwydi eu trin; a phe byddai Noah, Daniel, a Job, yn dyfod eto i breswylio y ddaear hon, caent ei bod yn lled gyffelyb i'r hyn oedd pan y buont ynddi gyntaf. Dywedai dynolryw y pryd hwnw, "Ein tafod sydd eiddom ni," ac felly eto. Os na ddiangodd yr Athraw mawr ei hunan, pa fodd y gall y dysgybl ddianc? Onid digon i'r gwas fod fel ei Arglwydd? Y mae y Barnwr wrth y drws; ger ei fron ef nid oes ond gwirionedd yn sefyll; ti elli fod yn gwbl ddibetrusgar y cei gyfiawnder ganddo ef, oblegyd nid yw ef yn gweled yn dda wneuthur cam à neb yn ei fater."

Chwithau, y camgyhuddwyr, y mae diwrnod eich prawf chwithau yn agos. Nid rhoi barn ehud ar eraill fydd