Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/299

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eich gwaith yn dra hir; cewch ddeall rywbryd, os na wnewch gyfiawnder âg eraill, na wna Duw drugaredd â chwithau yn y dydd hwnw. Efallai fod llawer o honoch, heb fod yn llunwyr celwyddau, ac eto yn euog o dderbyn enllib yn erbyn eich cymydogion: cofiwch fod derbyn eiddo anonest (trwy wybod) cynddrwg a lladrata. Byddwch ofalus am wirionedd pob peth a gredoch. Cofiwch "am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant gyfrif." Meithrinwch gariad ac ewyllys da tuag at eich cyd—ddynion. Ni ddichon neb ddringo yn uchel mewn gwirionedd ar gôst tynu eraill i lawr trwy gelwydd. Er cynddrwg yw y byd, y dyn sydd yn parchu eraill sydd fwyaf ei barch ynddo. Nid oes un ffordd i fyned yn îs ein hunain nag wrth iselu eraill. Bydded i'ch gweddi gyffredin gynwys y deisyfiad yma, "Rhag pob deisyfiad drwg ac anghariadoldeb, gwared ni, Arglwydd daionus."—Traethodydd, Gorph.,1847.

BODDLONRWYDD.

BODDLONRWYDD sydd rinwedd gwrthwyneb i duchan, grwgnach, ac anniddigrwydd ysbryd pigog ac anhawdd rhyngu ei fodd, yr hwn ysbryd sydd barod i dori allan ar flyneddau fel y flwyddyn hon, ac nid hwyrach yr un a ganlyn.

Ni byddai yn briodol dyweyd fod angel yn anfoddlon, nac yn wirionedd pe dywedid fod cythraul yn foddlawn; oblegyd y mae angel yn cael pob peth at ei feddwl, heb dim yn tynu yn groes iddo: ac o'r ochr arall nid oes dim wrth fodd y diafol, nac yntau wrth fodd neb arall. Nid boddlonrwydd y Cristion yw dedwyddwch yr angel—cael ei feddwl i gydymffurfiad â phob peth llywodraeth Duw yn y nef yw dedwyddwch yr angel, a chael ei feddwl i ymostyngiad tawel i lywodraeth Duw ar y ddaear yw y boddlonrwydd sydd yn mynwes y Cristion. Tybia rhai eu bod yn foddlawn pan nad ydynt ond yn ddifyr, neu yn llawen fwynhau eu pleserau anianol, am ryw hyd.

"Canu a wnant a bod yn llawen,
Fel y gog ar frig y gangen.'

Eraill a gyfrifant eu hunain yn foddlawn dros ben, pan nad ydynt ond difater a dideimlad. Ni waeth ganddynt