derfynau cyfreithlondeb, ond pan y mae y dymuniadau yn ymhelaethu y tuhwnt i fesurau rhesymol, y canlyniad fydd siomedigaeth ac anfoddlonrwydd. Peidio rhoddi ein meddwl ar uchelbethau, na rhodio mewn pethau rhy uchel i ni, peidio ag ymgais at ddull rhy uchel o fyw, a gochel chwenych ychwaneg o barch, awdurdod, a lle, nag y mae Duw a dynion yn gweled yn dda eu rhoddi i ni, yn ddiau a gynyrchai y rhinwedd o foddlonrwydd yn doreithiog.
7. Y mae yn angenrheidiol hefyd i foddlonrwydd fod ein cydwybod yn cymeradwyo ein holl ymarweddiad. Er nad yw y goreu o ddynion ond anmherffaith, eto os ein cydwybod a'n condemnia, nis gallwn fod yn foddlawn. Er holl wendid y natur ddynol, ac er holl demtasiynau y byd, y cnawd, a'r diafol, a gwrthryfel deddf yr aelodau yn erbyn deddf y meddwl, gall y Cristion ddywedyd tua diwedd ei daith, pan y mae amser ei ymddattodiad wedi nesu, "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd. O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnw :" ac nid yn unig i Paul, "ond i bawb a garant ei ymddangosiad ef." Ac megys y dywed y ddiareb, "Asgre lân diogel ei pherchen," felly dywedaf finau, cydwybod lân boddlawn ei pherchen. Gwledd wastadol yw y galon lawen hon—y mae pryd o ddail gyda hi yn well nag ŷch pasgedig hebddi.
Bellach, rhaid rhoddi terfyn ar hyn o ysgrif, rhag na chynyrcha ddigon o foddlonrwydd yn narllenwyr y "Geiniogwerth," i foddloni i ddarllen rhyw druth maith, eto erfyniwn eu hamynedd i ystyried y gras o foddlonrwydd. Yn un peth, fe gynyrcha ddiolchgarwch, offryma yn wirfoddol yr aberth hwn yn wastadol, teimla yn ddedwydd wrth aberthu fel hyn, ïe, fel gŵr gonest wrth dalu ei ddyled.
Hefyd, y mae boddlonrwydd, nid yn unig yn lleihau ein gofid, ond hefyd yn mwyhau ein cysuron. Dywed y ddiareb fod yn rhaid i duchan gael y drydedd, sef o hyny o fwyniant sydd genym; felly y mae boddlonrwydd yn ychwanegu ato, ac yn ei wneuthur yn saith mwy. Y mae y dyn boddlawn yn gysur iddo ei hunan. Bydd yn byw yn llawen gyda'i wraig a'i blant anwyl holl ddyddiau ei