Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/302

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fywyd. Y mae boddlonrwydd yn fantais i'w iechyd ac i'w deulu, ac i bawb o'i gwmpas. Y mae yn fendigedig yn ei fynediad a'i ddyfodiad, yn ffrwyth ei fru, ac yn nghawell ei does, ac yn nghynyrch ei ddefaid a'i wartheg, ac yn llafur ei ddwylaw. Nid mynych y llafuria yn ofer, nac y cenedla i drallod, ond bydd ei hâd yn fendigedig gan yr Arglwydd.

Yn olaf y mae yn ddifyr i'r boddlawn wneyd ei ddyledswydd, ac y mae ganddo fantais i'w llwyr wneyd, am fod ei ddyledswyddau yn ei olwg ef yn freintiau—efe a'u cyflawna yn brydlawn ac yn llwyr. Hysbys yw fod ded wyddwch pob sefyllfa yn y byd hwn yn ymddibynu ar gyflawniad dyledswyddau y sefyllfa hono: pa beth bynag fyddo y rhai, os gadewir heb eu gwneyd, neu ar haner eu cyflawni, rhaid dwyn y canlyniad.

"Gan fod yn foddlawn i'r hyn sydd genych."—Y Geiniogwerth, 1850.

SIAMPL A DYNWAREDIAD.

ER's ychwaneg na chan' mlynedd yn ol, yr oedd eglwys o Fedyddwyr yn Llundain wedi colli ei gweinidog, oherwydd lluddio iddo (fel miloedd o'i flaen ac ar ei ol) gan farwolaeth barhau. Yr oedd bywyd crefydd, tebygid, yn yr eglwys hon; ac yr oedd llwyddiant yr achos goreu yn ddwys ar eu meddyliau; ac am y teimlent eu bod o'r sect fanylaf o'r grefydd Gristionogol, ystyrient fod dewis gweinidog yn waith pwysig. Pa fodd bynag, wrth edrych o'u hamgylch, nis gallent ganfod neb yn mhlith y rhai a allent eu cael ag oedd yn ymddangos yn addas i'r lle, ac felly barnasant fod yn well cymeryd pwyll, ac aros i rywbeth mwy gobeithiol droi allan, a chymeryd rhyw frodyr cymeradwy i'w gwasanaethu hyd oni syrthient yn lled unfrydol ar olynwr addas i'w hen weinidog parchus, yr hwn yn ddiweddar a orphwysasai oddiwrth ei lafur. Fel hyn y buont am ryw hyd; ond dygwyddodd gweinidog newydd ddyfod adref o'r Cyfandir, yr hwn a aethai yno rhag erledigaeth, neu er mwyn gweled ansawdd y wlad a moesau y trigolion; ac am fod y gweinidog heb eglwys, a hwythau yn eglwys heb weinidog, cytunasant ar gynyg eu pulpud iddo am dymhor; cydsyniodd yntau dderbyn y Q cynygiad. Clywsent ei fod yn ŵr da, llawn o ffydd ac o'r Yspryd Glân; eithr nid oedd yn ail-fedyddio neb, ac oblegyd hyny, nid ystyrid ef ganddynt hwy yn Fedyddiwr oll. Pa fodd bynag, trodd allan yn bregethwr da, (digynyg, fel y dywed pobl y Dê), yn llon'd eu pulpud, a'i weinidogaeth yn gwneyd argraff dda ar yr eglwys a'r gynulleidfa. Wedi parhau fel hyn am rai misoedd yn hynod gymeradwy, annghofiai rhai eu colled am eu hen weinidog, ac nid oedd rhyw drafferth fawr arnynt am gael neb yn ei le. Eithr nid oedd y gweinidog cynorthwyol yn gweinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd; gwyddent mai bedyddio trwy daenelliad y byddai efe; ond am swper yr Arglwydd, nad oedd llawer o wahaniaeth rhyngddynt yn y gweinyddiad. Ac ar brydnawn-gwaith, dyma ddiacon yr eglwys yn dyfod at y gweinidog, ac yn dywedyd wrtho fod ei weinidogaeth yn dra derbyniol, ond ar yr un pryd fod ymddifadrwydd o swper yr Arglwydd yn cael ei deimlo yn ddwys ganddynt. "Yr wyf gan hyny," meddai, "yn gofyn i chwi dros yr eglwys, a fyddwch chwi yn rhydd i gyfranu i ni yn y dull a'r modd sydd wedi bod yn arferol yn ein plith? Yr ydym bob amser wedi bod yn gydwybodol yn ein hamcan i ddilyn y Pen Mawr, gan wneuthur, hyd y gallom, mal y gwnaeth yntau gyda'r deuddeg y nos y bradychwyd ef; a gobeithiwn na bydd yn un dolur i'ch teimlad gydymffurfio â ni yn ein gwaith yn dilyn yr hwn sydd ben uwchlaw pob peth i'r eglwys."

Gweinidog. —"Oh, na fydd mewn modd yn y byd, yr wyf fi yn caru yn fawr bod yn mhob peth yn debyg iddo Ef; ond os cywir yr hanes a glywais, nid ydych hyd yma wedi cydymffurfio yn mhob peth. Ai nid eistedd ar feinciau yr ydych amser cyfranu?"

Diacon— "Ie, ac onid eistedd yw yr agwedd mwyaf priodol wrth y fath wledd."

Gweinidog.—" Gallai hyny fod, ond nid felly yr oeddynt hwy, y mae yn amlwg, canys eisteddent yn ol arfer y dwyreiniaid, ar wely-faingc ar eu lledorwedd."

Diacon.—"Digon gwir, Syr, darllenais mai dyna y modd yr eisteddai y dwyreinwyr wrth eu byrddau, pa un bynag ai pryd cyffredin ai gwledd a fyddai; ond y mae pob peth i'w gael yn Llundain am arian; gellir cael y nifer a fynoch o'r gwely-feinciau hyn ar ychydig rybydd."

Gweinidog.—" O'r goreu, y mae hyna yn burion."


Diacon.—" Ond, Anwyl Syr, a ellwch chwi feddwl am ryw beth arall, yn yr hwn y gallwn fod yn fwy tebyg i'r Iesu a'i ddysgyblion?"

Gweinidog.—"Ni synwn ddim llawer os oes pethau eraill. Ai nid ar lawr y capel y byddech yn arfer bob amser cyfranu?"

Diacon.—"Ie, bydded sicr."

Gweinidog.—" Nid felly hwy, ond mewn goruwchystafell wedi ei thaenu yn barod."

Diacon.—" Gwir iawn, Anwyl Syr; ond y mae ystafell éang uwch ben y capel, gallwn barotoi hòno a myned iddi." Gweinidog." Da iawn."

Diacon.—" A dybiech chwi y gall fod rhyw beth yn mhellach yn niffyg ynom?"

Gweinidog.— Ai nid ydych wedi arfer cymuno y gwragedd a'r merched cyn gystled a'r gwyr a'r meibion, pan y mae yn amlwg nad oedd yn yr oruwchystafell ond meibion yn unig?

Diacon.—" Gwir iawn, yr ydym yn mhellach yn ol nag y tybiasom. Os da yn eich golwg, ni gymunwn y meibion yn gyntaf a'r merched wedi hyny; nis gallwn eu hesgeuluso hwy, canys y mae llawer o honynt yn caru yr Iesu."

Gweinidog.—" Chwi ddaethoch yn gampus cyn belled a hyny."

Diacon.—"Ai tybaid fod genych ryw annghydffurfiad yn mhellach?

Gweinidog.—" Ai nid yw eich nifer chwi yn ugeiniau os nad yn gannoedd?"

Diacon.—" Ydyw."

Gweinidog.—"Nid oeddynt hwy onid deuddeg heblaw yr Athraw."

Diacon.—"Wel, ni a'u cymerwn bob yn ddeuddeg, y mae yn anhawdd genyf goelio fod dim annghydffurfiad eto."

Gweinidog.—" Oes y mae. Yr oedd Judas yn eu plith hwy, ac a glywech chwi ar eich calon gadw lle hwnw?"

Diacon.— Os drwg gynt, gwaeth gwed'yn; na ni fynwn ni er fy mywyd gadw lle hwnw, ac mi welaf nad yw yn bosibl dilyn pethau yn mhob rhyw fan, gan fod yr amgylchiadau wedi newid cymaint, fel y gellid barnu yn gydwybodol na buasai Crist a'i Apostolion yn gwneyd fel y gwnaethant tan amgylchiadau eraill." Q Nid yw ysgrifenydd y llinellau hyn yn gwybod a ydyw yr hanesyn uchod yn argraffedig ai peidio, oblegyd adroddiad o hono a glywodd fel ffaith, gan un o weinidogion parchus Llundain. Pa fodd bynag, y mae yn eglur fod gwahaniaeth rhwng cymeryd Crist a'i apostolion yn esiampl i'w dilyn, a'u cymeryd yn wrthddrychau i'w dynwared—y mae bod i'r da gymeryd ei well yn esiampl yn deilwng o ddyn, pan nad yw dynwared ond prin yn deilwng o blentyn.—Buasai darpar esmwyth—feinciau erbyn y Sabbath cyfranu yn ddynwarediad, a dim arall; nis gallasai fod yn foddion tawelwch i gydwybod neb, oddieithr ei fod yn blentyn, neu yn dra phlentynaidd—yr un modd, buasai eu gweled yn dringo yr ystafell uwchben y capel (er cydymffurfio a'r oruwchystafell), buasai hyn yn eu gwneyd yn wrthddrychau dirmyg rhai a thosturi y lleill; ac nid llawer gwell a fuasai cymuno y meibion o flaen y merched, oblegyd buasai hyn yn peri i'r ferch deimlo ei darostyngiad yn ormod, yn fwy nag ydyw mewn pethau eraill gallai y wraig ddywedyd, Yr wyf yn cael bwyta ar yr un bwrdd ac ar yr un pryd a'm priod a'm teulu, a phaham y gwarafunir i mi gyd-fwyta âg ef yn yr eglwys? Cyfodai hyn hefyd deimlad cyffredinol y ddynoliaeth yn ffafr y menywaid—ie, byddai synwyr cyffredin yn sicr o gondemnio yr arferiad—ac nid gwell fuasai yr un o'r amgylchiadau eraill pe eu rhoddid mewn ymarferiad. Gwir yw fod rhagrithwyr yn yr eglwys weledig yn y byd hwn, eto nid oes iddynt na lle na swydd fel y cyfryw—cymerwn sylwedd esiamplau Crist a'i apostolion i'w dilyn ac nid y llythyren. Llanwer ni hefyd âg yspryd Crist, oblegyd od oes neb heb yspryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef. O'r Methodist, Tachwedd, 1854.

WREXHAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB, HOPE STREET. hwy ar y ddaear ffordd y cerddo y byd, nid yw iselbris ac uchelbris nwyddau ac anifeiliaid ond yr un peth iddynt; y maent hwy fel Twm Dwneyn, yn gefnllwm ac esgeirnoeth, yr hwn, ar y diwrnod oeraf, a ddywedai nad oedd arno ef ddim anwyd, ac na byddai ar neb arall ddim pe rhoddent gymaint ag a feddent am danynt fel efe. Y mae rhai fel hyn, wedi ymfoddloni, yn tynu arnynt anfoddlonrwydd rhai eraill. Ond y boddlonrwydd sydd gysylltiedig â duwioldeb a gynwys yn

1. Derbyniad diolchgar y duwiol o holl drugareddau Duw yn ei iachawdwriaeth a'i ragluniaeth, ac ymostyngiad tan alluog law Duw yn ei geryddon, ac yn holl groesau ei daith trwy y byd.

2. Cynwys ystyriaethau teilwng am lywodraeth y Duw mawr—ei bod yn gyfiawn, yn ddoeth, ac yn dda. Dywed mai yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaear, llawenyched ynysoedd lawer.'

3. Gobaith gwastadol yn y meddwl y bydd i bob peth gydweithio er daioni yn y diwedd, pa un bynag ai hawddfyd ai adfyd. Caiff y naill fel y llall wasanaethu yn eu tro i ddwyn oddiamgylch y lles mwyaf y bydd i'r "byr ysgafn gystudd," tan fendith y nef, "weithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni."

4. Cynwysa yr ystyriaeth ei bod yn llawer gwell nag yr haeddasom ei bod, ac yn llawer gwell nag yr ofnasom y byddai, ac ysgatfydd yn well nag y mae ar lawer o'n cydgreaduriaid. Ac megys y mae mesur helaeth o drueni yn yr ystyriaeth nad oes gofid neb fel ein gofid ni, felly y mae mesur o dawelwch yn yr ystyriaeth fod ein gofidiau yn llai na'r eiddo eraill.

5. Cynwys duedd yn y meddwl i sylwi ar amlder a gwerth trugareddau Duw, a gwel y sant eu bod yn amlach na gwallt ei ben, eu bod yn amlach nag y gellir eu rhifo, ac nas gellir bwrw eu gwerth, a bod y rhai mwyaf angenrheidiol yn fwyaf cyffredinol ac amlaf ar yr un pryd. O! mor lluosog yw gweithredoedd Duw, a'i drugaredd fel llen wedi ei thaenu arnynt oll. "Fy enaid bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef."

6. Y mae boddlonrwydd yn cynwys y gelfyddyd sanctaidd o gadw y dymuniadau am bethau y bywyd hwn o fewn terfynau priodol. Nid yw yn bechadurus i ni ddymuno yn gymedrol bethau da y fuchedd hon, tra nad elom dros Q derfynau cyfreithlondeb, ond pan y mae y dymuniadau yn ymhelaethu y tuhwnt i fesurau rhesymol, y canlyniad fydd siomedigaeth ac anfoddlonrwydd. Peidio rhoddi ein meddwl ar uchelbethau, na rhodio mewn pethau rhy uchel i ni, peidio ag ymgais at ddull rhy uchel o fyw, a gochel chwenych ychwaneg o barch, awdurdod, a lle, nag y mae Duw a dynion yn gweled yn dda eu rhoddi i ni, yn ddiau a gynyrchai y rhinwedd o foddlonrwydd yn doreithiog.

7. Y mae yn angenrheidiol hefyd i foddlonrwydd fod ein cydwybod yn cymeradwyo ein holl ymarweddiad. Er nad yw y goreu o ddynion ond anmherffaith, eto os ein cydwybod a'n condemnia, nis gallwn fod yn foddlawn. Er holl wendid y natur ddynol, ac er holl demtasiynau y byd, y cnawd, a'r diafol, a gwrthryfel deddf yr aelodau yn erbyn deddf y meddwl, gall y Cristion ddywedyd tua diwedd ei daith, pan y mae amser ei ymddattodiad wedi nesu, "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd. O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnw :" ac nid yn unig i Paul, "ond i bawb a garant ei ymddangosiad ef." Ac megys y dywed y ddiareb, "Asgre lân diogel ei pherchen," felly dywedaf finau, cydwybod lân boddlawn ei pherchen. Gwledd wastadol yw y galon lawen hon—y mae pryd o ddail gyda hi yn well nag ŷch pasgedig hebddi.

Bellach, rhaid rhoddi terfyn ar hyn o ysgrif, rhag na chynyrcha ddigon o foddlonrwydd yn narllenwyr y "Geiniogwerth," i foddloni i ddarllen rhyw druth maith, eto erfyniwn eu hamynedd i ystyried y gras o foddlonrwydd. Yn un peth, fe gynyrcha ddiolchgarwch, offryma yn wirfoddol yr aberth hwn yn wastadol, teimla yn ddedwydd wrth aberthu fel hyn, ïe, fel gŵr gonest wrth dalu ei ddyled.

Hefyd, y mae boddlonrwydd, nid yn unig yn lleihau ein gofid, ond hefyd yn mwyhau ein cysuron. Dywed y ddiareb fod yn rhaid i duchan gael y drydedd, sef o hyny o fwyniant sydd genym; felly y mae boddlonrwydd yn ychwanegu ato, ac yn ei wneuthur yn saith mwy. Y mae y dyn boddlawn yn gysur iddo ei hunan. Bydd yn byw yn llawen gyda'i wraig a'i blant anwyl holl ddyddiau ei Q fywyd. Y mae boddlonrwydd yn fantais i'w iechyd ac i'w deulu, ac i bawb o'i gwmpas. Y mae yn fendigedig yn ei fynediad a'i ddyfodiad, yn ffrwyth ei fru, ac yn nghawell ei does, ac yn nghynyrch ei ddefaid a'i wartheg, ac yn llafur ei ddwylaw. Nid mynych y llafuria yn ofer, nac y cenedla i drallod, ond bydd ei hâd yn fendigedig gan yr Arglwydd.

Yn olaf y mae yn ddifyr i'r boddlawn wneyd ei ddyledswydd, ac y mae ganddo fantais i'w llwyr wneyd, am fod ei ddyledswyddau yn ei olwg ef yn freintiau—efe a'u cyflawna yn brydlawn ac yn llwyr. Hysbys yw fod ded wyddwch pob sefyllfa yn y byd hwn yn ymddibynu ar gyflawniad dyledswyddau y sefyllfa hono: pa beth bynag fyddo y rhai, os gadewir heb eu gwneyd, neu ar haner eu cyflawni, rhaid dwyn y canlyniad.

"Gan fod yn foddlawn i'r hyn sydd genych."—Y Geiniogwerth, 1850.

SIAMPL A DYNWAREDIAD.

ER's ychwaneg na chan' mlynedd yn ol, yr oedd eglwys o Fedyddwyr yn Llundain wedi colli ei gweinidog, oherwydd lluddio iddo (fel miloedd o'i flaen ac ar ei ol) gan farwolaeth barhau. Yr oedd bywyd crefydd, tebygid, yn yr eglwys hon; ac yr oedd llwyddiant yr achos goreu yn ddwys ar eu meddyliau; ac am y teimlent eu bod o'r sect fanylaf o'r grefydd Gristionogol, ystyrient fod dewis gweinidog yn waith pwysig. Pa fodd bynag, wrth edrych o'u hamgylch, nis gallent ganfod neb yn mhlith y rhai a allent eu cael ag oedd yn ymddangos yn addas i'r lle, ac felly barnasant fod yn well cymeryd pwyll, ac aros i rywbeth mwy gobeithiol droi allan, a chymeryd rhyw frodyr cymeradwy i'w gwasanaethu hyd oni syrthient yn lled unfrydol ar olynwr addas i'w hen weinidog parchus, yr hwn yn ddiweddar a orphwysasai oddiwrth ei lafur. Fel hyn y buont am ryw hyd; ond dygwyddodd gweinidog newydd ddyfod adref o'r Cyfandir, yr hwn a aethai yno rhag erledigaeth, neu er mwyn gweled ansawdd y wlad a moesau y trigolion; ac am fod y gweinidog heb eglwys, a hwythau yn eglwys heb weinidog, cytunasant ar gynyg eu pulpud iddo am dymhor; cydsyniodd yntau dderbyn y