Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/303

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynygiad. Clywsent ei fod yn ŵr da, llawn o ffydd ac o'r Yspryd Glân; eithr nid oedd yn ail-fedyddio neb, ac oblegyd hyny, nid ystyrid ef ganddynt hwy yn Fedyddiwr oll. Pa fodd bynag, trodd allan yn bregethwr da, (digynyg, fel y dywed pobl y Dê), yn llon'd eu pulpud, a'i weinidogaeth yn gwneyd argraff dda ar yr eglwys a'r gynulleidfa. Wedi parhau fel hyn am rai misoedd yn hynod gymeradwy, annghofiai rhai eu colled am eu hen weinidog, ac nid oedd rhyw drafferth fawr arnynt am gael neb yn ei le. Eithr nid oedd y gweinidog cynorthwyol yn gweinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd; gwyddent mai bedyddio trwy daenelliad y byddai efe; ond am swper yr Arglwydd, nad oedd llawer o wahaniaeth rhyngddynt yn y gweinyddiad. Ac ar brydnawn-gwaith, dyma ddiacon yr eglwys yn dyfod at y gweinidog, ac yn dywedyd wrtho fod ei weinidogaeth yn dra derbyniol, ond ar yr un pryd fod ymddifadrwydd o swper yr Arglwydd yn cael ei deimlo yn ddwys ganddynt. "Yr wyf gan hyny," meddai, "yn gofyn i chwi dros yr eglwys, a fyddwch chwi yn rhydd i gyfranu i ni yn y dull a'r modd sydd wedi bod yn arferol yn ein plith? Yr ydym bob amser wedi bod yn gydwybodol yn ein hamcan i ddilyn y Pen Mawr, gan wneuthur, hyd y gallom, mal y gwnaeth yntau gyda'r deuddeg y nos y bradychwyd ef; a gobeithiwn na bydd yn un dolur i'ch teimlad gydymffurfio â ni yn ein gwaith yn dilyn yr hwn sydd ben uwchlaw pob peth i'r eglwys."

Gweinidog. —"Oh, na fydd mewn modd yn y byd, yr wyf fi yn caru yn fawr bod yn mhob peth yn debyg iddo Ef; ond os cywir yr hanes a glywais, nid ydych hyd yma wedi cydymffurfio yn mhob peth. Ai nid eistedd ar feinciau yr ydych amser cyfranu?"

Diacon— "Ie, ac onid eistedd yw yr agwedd mwyaf priodol wrth y fath wledd."

Gweinidog.—" Gallai hyny fod, ond nid felly yr oeddynt hwy, y mae yn amlwg, canys eisteddent yn ol arfer y dwyreiniaid, ar wely-faingc ar eu lledorwedd."

Diacon.—"Digon gwir, Syr, darllenais mai dyna y modd yr eisteddai y dwyreinwyr wrth eu byrddau, pa un bynag ai pryd cyffredin ai gwledd a fyddai; ond y mae pob peth i'w gael yn Llundain am arian; gellir cael y nifer a fynoch o'r gwely-feinciau hyn ar ychydig rybydd."

Gweinidog.—" O'r goreu, y mae hyna yn burion."