Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/304

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Diacon.—" Ond, Anwyl Syr, a ellwch chwi feddwl am ryw beth arall, yn yr hwn y gallwn fod yn fwy tebyg i'r Iesu a'i ddysgyblion?"

Gweinidog.—"Ni synwn ddim llawer os oes pethau eraill. Ai nid ar lawr y capel y byddech yn arfer bob amser cyfranu?"

Diacon.—"Ie, bydded sicr."

Gweinidog.—" Nid felly hwy, ond mewn goruwchystafell wedi ei thaenu yn barod."

Diacon.—" Gwir iawn, Anwyl Syr; ond y mae ystafell éang uwch ben y capel, gallwn barotoi hòno a myned iddi." Gweinidog." Da iawn."

Diacon.—" A dybiech chwi y gall fod rhyw beth yn mhellach yn niffyg ynom?"

Gweinidog.— Ai nid ydych wedi arfer cymuno y gwragedd a'r merched cyn gystled a'r gwyr a'r meibion, pan y mae yn amlwg nad oedd yn yr oruwchystafell ond meibion yn unig?

Diacon.—" Gwir iawn, yr ydym yn mhellach yn ol nag y tybiasom. Os da yn eich golwg, ni gymunwn y meibion yn gyntaf a'r merched wedi hyny; nis gallwn eu hesgeuluso hwy, canys y mae llawer o honynt yn caru yr Iesu."

Gweinidog.—" Chwi ddaethoch yn gampus cyn belled a hyny."

Diacon.—"Ai tybaid fod genych ryw annghydffurfiad yn mhellach?

Gweinidog.—" Ai nid yw eich nifer chwi yn ugeiniau os nad yn gannoedd?"

Diacon.—" Ydyw."

Gweinidog.—"Nid oeddynt hwy onid deuddeg heblaw yr Athraw."

Diacon.—"Wel, ni a'u cymerwn bob yn ddeuddeg, y mae yn anhawdd genyf goelio fod dim annghydffurfiad eto."

Gweinidog.—" Oes y mae. Yr oedd Judas yn eu plith hwy, ac a glywech chwi ar eich calon gadw lle hwnw?"

Diacon.— Os drwg gynt, gwaeth gwed'yn; na ni fynwn ni er fy mywyd gadw lle hwnw, ac mi welaf nad yw yn bosibl dilyn pethau yn mhob rhyw fan, gan fod yr amgylchiadau wedi newid cymaint, fel y gellid barnu yn gydwybodol na buasai Crist a'i Apostolion yn gwneyd fel y gwnaethant tan amgylchiadau eraill."