Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/305

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid yw ysgrifenydd y llinellau hyn yn gwybod a ydyw yr hanesyn uchod yn argraffedig ai peidio, oblegyd adroddiad o hono a glywodd fel ffaith, gan un o weinidogion parchus Llundain. Pa fodd bynag, y mae yn eglur fod gwahaniaeth rhwng cymeryd Crist a'i apostolion yn esiampl i'w dilyn, a'u cymeryd yn wrthddrychau i'w dynwared—y mae bod i'r da gymeryd ei well yn esiampl yn deilwng o ddyn, pan nad yw dynwared ond prin yn deilwng o blentyn.—Buasai darpar esmwyth—feinciau erbyn y Sabbath cyfranu yn ddynwarediad, a dim arall; nis gallasai fod yn foddion tawelwch i gydwybod neb, oddieithr ei fod yn blentyn, neu yn dra phlentynaidd—yr un modd, buasai eu gweled yn dringo yr ystafell uwchben y capel (er cydymffurfio a'r oruwchystafell), buasai hyn yn eu gwneyd yn wrthddrychau dirmyg rhai a thosturi y lleill; ac nid llawer gwell a fuasai cymuno y meibion o flaen y merched, oblegyd buasai hyn yn peri i'r ferch deimlo ei darostyngiad yn ormod, yn fwy nag ydyw mewn pethau eraill gallai y wraig ddywedyd, Yr wyf yn cael bwyta ar yr un bwrdd ac ar yr un pryd a'm priod a'm teulu, a phaham y gwarafunir i mi gyd-fwyta âg ef yn yr eglwys? Cyfodai hyn hefyd deimlad cyffredinol y ddynoliaeth yn ffafr y menywaid—ie, byddai synwyr cyffredin yn sicr o gondemnio yr arferiad—ac nid gwell fuasai yr un o'r amgylchiadau eraill pe eu rhoddid mewn ymarferiad. Gwir yw fod rhagrithwyr yn yr eglwys weledig yn y byd hwn, eto nid oes iddynt na lle na swydd fel y cyfryw—cymerwn sylwedd esiamplau Crist a'i apostolion i'w dilyn ac nid y llythyren. Llanwer ni hefyd âg yspryd Crist, oblegyd od oes neb heb yspryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef. O'r Methodist, Tachwedd, 1854.




WREXHAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB, HOPE STREET.