nad oedd yn iach yn y ffydd; a byddai rhai o honynt yn meddu digon o ddigywilydd-dra i'w alw i gyfrif. Byddai rhaid iddo "gadw ffrwyn yn ei enau" pan yn ymddiddan a rhai o honynt, a hyny am y gwyddai nad oeddynt yn deall dim am y pethau. Aeth un atto ar ol pregethu unwaith, a gofynodd iddo, mewn dull oedd yn ymylu ar fod yn haerllug, "A wyddoch chwi, Richard Humphreys, eich bod wedi cyfeiliorni heddyw?" ac ychwanegai, "yr wyf yn dysgwyl na wnewch ddigio wrthyf, mi fyddaf fi yn caru bod yn onest bob amser." "Ie," ebe yntau, "piti na baet yn caru bod yn gall hefyd yr wyt yn gofalu mwy am fod yn onest nag yn ddoeth, mi feddyliwn; ni byddai niwed yn y byd pe byddai i ti feddwl am fod dipyn yn ddoeth hefyd." Ond pan gofiwn mai dyddiau y dadleuon crefyddol oedd y dyddiau hyny—dyddiau ag yr oedd gwirioneddau yr efengyl yn fwy o ddefnyddiau cynhenau ac ymrysonau nag oeddynt o adeiladaeth[1]—nid oedd yn beth mor ryfedd fod yn rhaid i'r pregethwyr hyny oedd yn lled annibynol eu meddwl oddef cael eu galw i gyfrif gan rai llawer islaw iddynt eu hunain.
Ar ol iddo fod yn pregethu am o gylch tair blynedd-ar-ddeg, fe ddechreuodd rhai yn y sir aflonyddu am gael ei ordeinio i holl waith y weinidogaeth. Ond gan nad oedd yn pregethu yr un fath a neb arall, petrusai eraill gyda golwg ar ei ordeinio; ac er mwyn cael sicrwydd ei fod yn iach yn y ffydd, trefnwyd iddo fyned ar gyhoeddiad gyda'r diweddar Barch. Richard Jones o'r Wern. Nid oedd Mr. Humphreys yn gwybod dim am eu hamcan, ac nid oedd ar Richard Jones ei hunan eisieu prawf yn y byd arno,' oblegid yr oedd yn ei adnabod yn dda o'r blaen: ond gan fod yn rhaid i wyliedyddion yr athrawiaeth gael ei brofi, nid oedd modd iddynt syrthio ar ŵr cymwysach i fod yn feirniad arno na Richard Jones, oblegid nid wrth eu gwisgoedd y byddai ef yn adnabod gwirioneddau yr efengyl. Wedi gorphen y daith, aeth rhai o'r brodyr at Mr. Jones i ofyn ei farn am Mr. Humphreys, a'i ateb syml ydoedd, "Mae yn berffaith ddiogel i chwi ei ordeinio." Ar ol derbyn y dystiolaeth hon, meddyliodd y sir o ddifrif am ei neillduo i holl waith y weinidogaeth; ac yn y flwyddyn 1833 fe'i hordeiniwyd ef, a brodyr eraill, yn Nghymdeith-
- ↑ Gwel hanes y Dadleuon yn Nghofiant John Jones, Talsarn.