Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

goethaf, a'i addurno yn fynych â'r cymhariaethau prydferthaf. Fel enghraifft, gallwn grybwyll un gymhariaeth o'i eiddo, er dangos y gwahaniaeth rhwng caru Duw a charu dynion. Dywedai, Ein bod wrth garu dynion yn debyg i rai yn lladd gwair mewn tir caregog, lle y mae yn rhaid i ni ofalu am gadw o hyd mewn terfynau; ond ein bod wrth garu Duw yn debyg i rai yn lladd gwair mewn doldir fras, lle y gallwn roddi ein holl nerth mewn gweithrediad.' Efallai mai diffyg chwaeth ynom ni ydyw yr achos, ond y mae yn rhaid i ni addef ein bod yn hoffi y cyfryw gymhariaethau. O'r hyn lleiaf, yr oeddynt yn llawer mwy dealladwy i'r bobl na chyfeiriadau dysgedig at y sêr a'r planedau. Ac hyd yn oed y bydoedd wybrenol a ddygid ganddo yn agos at ddeall y bobl trwy gymhariaethau cartrefol. Fe ddywedai unwaith wrth son am ddoethineb y Creawdwr, Na buasai yr haul yn atteb y dyben pe buasai yn llai o faint, er iddo fod yn nes atom; gan y buasai y ddaear felly yn debyg i ddyn yn y gauaf wrth dân bychan—gwres yr hwn nis gallai ei gynhesu drosto pa mor agos bynag y nesaâi atto."

Yr oedd Mr. Humphreys yn athronydd craffus; a byddai yn gwneyd defnydd mawr o Athroniaeth Naturiol yn ei bregethau. Ond er y byddai yn dra hoff o son am natur a'i deddfau, ni feddyliodd neb a arferai ei wrando yn feddylgar nad oedd efe yn dduwinydd da hefyd. Gallai y sylw a wnaeth y diweddar Barch. Henry Rees ar ei bregeth ar y testyn "Dyna y Duw," wasanaethu i ddangos ei weinidogaeth yn gyffredinol," Wel mae y Duwinydd wedi llyngcu yr athronydd o'r golwg." Bob amser yr ymgymerai a rhai o athrawiaethau yr efengyl, byddai yn traethu ei olygiadau mewn modd goleu a chadarn, gan gadw ei olwg ar y gwirionedd cyferbyniol, ac i "brophwydo yn ol cysondeb y ffydd." Ni byddai yn proffesu fod ganddo gorph cyflawn o Dduwinyddiaeth; a byddai yn arfer dyweyd fod gwirioneddau mawrion yr efengyl yn wasgaredig trwy y Beibl fel yr esgyrn sychion âr hyd ddyffryn Ezeciel, a bod yn rhaid cael un pur fedrus i hel y rhai hyny ynghyd, a'u gosod wrth eu gilydd yn y fath fodd ag i allu gwneyd corph lluniaidd o honynt. Trwy y byddai efe yn traethu ei feddyliau ar byngciau athrawiaethol yr efengyl yn ei ddull a'i ymadroddion ei hunan, heb ofalu am y termau arferedig, fe aeth rhai o'i wrandawyr i ofni