sathru dan eu traed." Ond gan y bydd genym bennod ar hyn, ni a ymattaliwn heb roddi ond un neu ddwy o honynt. Un tro yr oedd y diweddar Barch. David Jones, Treborth, yn cael ei ddysgwyl i Gyfarfod Misol i'r Dyffryn; ond wedi gweled y Goach fawr yn myned heibio, a'r gŵr parchedig heb ddyfod, ofnwyd yn fawr fod rhywbeth wedi ei attal, ac nid oedd neb yn teimlo yn fwy pryderus na Mr. Humphreys. Ond pan oeddynt ar fyned i'r oedfa, pwy ddaeth i dŷ y capel ond Mr. Jones. Neidiodd Mr. Humphreys ar ei draed, a dywedodd yn ei ddull serchog ei hun, "Dafydd bach, y mae yn dda genyf eich gweled; sut y daethoch?" Wel, fe ddarfu rhyw ŵr fod mor garedig a'm cario o Borthmadog, ac y mae wedi dyweyd yr â a fi yn ol yfory." "Dyna beth ydyw bod yn ŵr mawr," ebe Mr. Humphreys. "Mi welais inau lawer yn cymeryd trafferth i'm cael inau i gymydogaeth, ond wedi fy nghael yno, gwnaent a mi fel y gwna y melinydd gyda'r dŵr: cymer gryn drafferth i gael y dwfr i gafn y felin, ond wedi ei gael yno, cymered ei siawns i fyn'd i ffordd."
Gofynwyd iddo—mewn lle heb fod yn mhell o'r Dyffryn —i roddi gair o annogaeth i rai fyn'd i'r Ysgol Sabbothol, yr hyn a wnaeth fel hyn:— "Y mae yn rhyfedd fod eisieu annog neb o honoch i fyned i'r Ysgol Sabbothol, a hithau yn sefydliad mor dda; ond er yr holl Ysgolion Sabbothol sydd yn y wlad, y mae llawer yn diangc heb fedru darllen. Gellid meddwl wrth edrych ar yr odyn galch ei bod yn un olwyn o dân; ond er yr holl dân, fe fydd ambell i gareg yn myn'd trwyddi heb losgi, ac nid oes dim yn well na'i thaflu i'r odyn drachefn. Felly chwithau, fy mhobl i, os oes rhai o honoch wedi diangc heb fedru darllen, ond i chwi fyned i'r Ysgol Sabbothol, y mae siawns dda am danoch eto."
Ni byddai Mr. Humphreys ychwaith yn ymddiosg o'i ddull naturiol ei hun pan yr esgynai i'r pulpud. Y mae rhai pregethwyr mor wahanol iddynt eu hunain pan yn pregethu, fel y gellid tybied eu bod yn cario llais a goslef yn eu satchels, o bwrpas i'w ddefnyddio pan yn llefaru o'r areithfa; ond am wrthddrych ein cofiant, fel y dywed Dr. Edwards yn mhellach, "Yr oedd yr un hynodrwydd i'w ganfod yn ei bregethau ag oedd yn ei ymddiddanion. Pa beth bynag oedd yn ddiffygiol ynddynt, nid oedd ynddynt byth ddiffyg synwyr, a hwnw wedi ei wisgo yn yr iaith