Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y mae yn ddiau y rhyfeddai llawer pe cymharem Mr. Humphreys a'r bardd Wordsworth; ac eto er eu bod yn anhebyg iawn, ar amryw olygiadau, yr oeddynt yn gyffelyb yn y sylw a delid ganddynt i bethau cyffredin. Dangosai y naill fod yr amgylchiadau mwyaf cyffredin yn llawn prydferthwch, a dangosai y llall eu bod yn llawn o synwyr; hyn oedd yn gwneyd ymweliadau Mr. Humphreys mor ddiddanus ac mor dderbyniol mewn teuluoedd. Yr oedd y rhieni a'r plant, y gweision a'r morwynion, i gyd yn llawen pan ddeallent fod gobaith iddynt gael y fraint o'i groesawu: oblegid byddai ganddo ef air i'w ddywedyd wrth bawb, a'r gair hwnw yn addysgiadol i bawb. Dywedir yn hanes Irving iddo enill serch rhyw grydd anhywaith trwy ddangos ei fod yn deall am natur lledr. 'He's a sensible man yon; he kens about leather,' meddai y crydd rhagfarnllyd yn Glasgow. A'r un peth ydyw y natur ddynol yn Nghymru, ac yr oedd Mr. Humphreys, yn yr un dull, yn peri i bawb gredu ei fod yn sensible man. Yr oedd yn llwyddo, nid trwy ddeall yn unig, ond trwy gydymdeimlad. Nid fel un yn ymostwng o ryw diriogaeth uwch yr oedd yn ymddiddan a dynion o bob crefft ac o bob gradd; ond fel un o honynt hwy eu hunain. Nid rhywbeth gwneyd oedd y dyddordeb a ddangosai yn mhob achos. Yr oedd yn caru dynion fel dynion; ac heb hyn buasai y cwbl yn aneffeithiol; oblegid y mae ffug mewn ymddiddanion am bethau cyffredin, fel mewn achosion mwy pwysig, bob amser yn creu gwrthdarawiad. Nis gwyddom yn sicr pa un yn benaf ai achos ai effaith o hyn oedd ei fedrusrwydd i dderbyn addysg iddo ei hun oddiwrth bawb, yn gystal ag i roddi addysg iddynt hwythau. Mewn hen feini, na fuasai neb arall yn sylwi arnynt, yr oedd ef yn fynych yn cael mŵn gwerthfawr; ac fel hyn y byddai ganddo ryw hanes difyr, neu ddywediad pert, i'w gymhwyso at bob amgylchiad. Os cafwyd allan gan eraill fod trysorau yn nghreigiau Sir Feirionydd, dangosodd yntau fod cyfoeth o synwyr yn ymddiddanion cyffredin y werin."

Buasai yn hawdd i ni ddwyn lliaws o enghreifftiau yn mlaen er dangos ei fedrusrwydd i egluro a phrydferthu ei ymddiddanion a'i anerchiadau trwy gymhariaethau, pa rai a gymerai o blith pethau na buasai y cyffredin yn gwneyd dim a hwy ond yr un peth ag a wnai moch a gemau, eu