Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynnadleddau, Pwy oedd y gŵr hwnw oedd yn llefaru yn fwy llithrig, a'i lais yn swnio yn fwy seinber na neb arall yn y cyfarfod. Ni chafodd geiriau yr hen iaith Gymraeg eu hacenu well yn gan neb erioed na chanddo ef. Ond yr oedd pawb oedd yn deall ystyr ei eiriau yn teimlo hefyd nad oedd ei ymadroddion un amser yn cynwys sŵn heb ddim sylwedd; ac yr oeddynt wrth ei wrandaw yn barod i ddyweyd, nid yn unig 'Dacw ddyn syml,' ond, 'Dacw ddyn synwyrol.' Efallai mai ei nodwedd fwyaf arbenig oedd ei helaethrwydd o synwyr cyffredin. Byddai rhai yn gwawdio y dywediad hwnw o eiddo yr hen batriarch Lewis Morris, fod yn rhaid cael synwyr i arfer synwyr,' ond y mae mwy ynddo nag yr oedd llawer yn tybied. Cawsom gyfle yn ddiweddar i ddarllen hanes Irving, gan Mrs. Oliphant; ac un effaith a gafodd arnom oedd ein argyhoeddi o gywirdeb dywediad yr hen dad o Sir Feirionydd. Yr oedd Irving yn un o'r dynion mwyaf yn ei oes; ond ammharodd ei ddefnyddioldeb i raddau mawr o ddiffyg 'synwyr i arfer synwyr.' Yn hyn yr oedd yn mhell islaw Dr. Chalmers, er ei fod yn rhagori arno mewn ystyriaethau eraill. Ond yn y synwyr neillduol hwn, nid oedd Chalmers na Franklin yn rhagori ar Mr. Humphreys, o'r Dyffryn. Paham y gelwir ef yn 'synwyr cyffredin nis gwyddom; ond pe dilynem rai o'r dysgedigion mewn achosion cyffelyb, ni a ddywedem ei fod yn cael ei alw felly am ei fod yn anghyffredin. Pa fodd bynag, y mae ei enw yn cyfateb yn berffaith i'w ddyben a'i ddefnydd; oblegid y mae yn dwyn perthynas yn benaf â phethau cyffredin. Ac yma eto y mae gwahanol ranau a rhywogaethau. Un o honynt ydyw synwyr i ymddwyn yn ddoeth yn ei berthynas â phethau cyffredin. Yn y ddau ystyr yma yr oedd llawer o wŷr a gwragedd yn Sir Feirionydd, ac mewn siroedd eraill, mor synwyrol a Mr. Humphreys, o'r Dyffryn: ac yn enwedig ni a deimlem duedd gref i efelychu yr hen weinidog hwnw, yr hwn pan yn gweddio dros Jonathan Edwards, a ddefnyddiodd y cyfle i ddadgan ei farn, er cymaint dyn oedd y duwiol hwnw, eto fod ei wraig yn rhagori arno. Ond y mae math arall o synwyr cyffredin : ac yn hwnw yr oedd Mr. Humphreys yn nodedig, sef y gallu i dynu addysgiadau buddiol oddiwrth bethau cyffredin, ac i wneuthur sylwadau buddiol arnynt.