Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daenedig ar ei wyneb llydan braf: yn ffurfio y fath gontrast rhyngddo ag ambell i greadur gwynebgul y teimlem yn falch nad oedd fodd dangos mwy o surni a chwerwder ar ei frontispiece. Ond am Mr. Humphreys ni fuasai yn waeth gan neb pe buasai ei wyneb cân lleted a'r ffenestr, o herwydd na fuasai ond gollwng ffrwd o oleuni ar deimladau mwyaf dymunol y galon ddynol. Teimlid fod cyfarchiad caruaidd Mr. Humphreys hefyd yn werth ei gael. Byddai ei' How di do, machgen i,' yn ymofyniad serchog a gwirioneddol, ac yr oedd ei ysgydwad llaw yn rhywbeth pur sylweddol. Nid fel ambell un yn gollwng ei bawen i'ch llaw fel rhyw lwmp o sponge llaith, gan edrych ffordd arall, y byddai efe; na, byddid yn teimlo fod ei galon fawr yn throbio yn nghledr ei law, a'i ddau lygad mawr gloew yn edrych yn eich llygaid chwithau, fel pe yn yspio a oedd rhyw drallod a gofid yn rhyw le tua gwraidd y galon ag y gallai ef roi plaster wrthynt. Efelychai yn fawr yn hyn dynerwch tosturiol yr Iachawdwr bendigedig, fel ei dangosir gan y bardd Cowper yn y llinellau hyny ar Y Daith i Emmaus:'

'Ere yet they brought their journey to an end
A stranger joined them, courteous as a friend,
And asked them, with an engaging air,
What their affliction was? and begged a share.""

Er dangos yn mhellach y rhagoriaethau oedd yn Mr. Humphreys i'w gymhwyso i droi mewn cylchoedd cyhoeddus ni a ddifynwn ranau o'r ysgrif a ymddangosodd arno yn y Faner (yn fuan ar ol ei farwolaeth), gan Dr. Edwards. Wedi sylwi nad oedd dim yn ei wisg, na'i ddull, yn dangos pa beth oedd ei swydd, na'i alwedigaeth, na'r blaid grefyddol yr oedd yn perthyn iddi, ac y byddai yntau ei hunan yn arfer dyweyd nad oedd yn dewis i ddyeithriaid gael achos i sylwi wrth edrych arno, "Dacw bregethwr Methodist;" ond y dymunai yn hytrach iddynt ddyweyd am dano, os dywedent rywbeth, "Dacw ddyn syml yn myned heibio," â yr awdwr yn mlaen fel hyn:

"Ond er nad oedd dim yn hynod yn ei ymddangosiad, nid cynt y dechreuai siarad ar unrhyw achlysur nag y tynai sylw pawb a fyddai yn bresenol. Yr oedd hyfrydwch i'r glust hyd yn oed yn ystwythder ei lais: ac yr ydym yn cofio fod y diweddar Mr. Sherman, o Lundain, mewn cymanfa unwaith yn Ninbych, yn gofyn i rywun yn y