PENNOD IV.
MR. HUMPHREYS YN EI GYLCHOEDD CYHOEDDUS.
Cawn ofyn i'r cynifer—adwaenai'n
Daionus dad tyner,
Dan luaws doniau lawer,
Ei fawr iawn bwyll, a'i farn bêr,
Od oedd ar y ddaear ddyn
O'i lawnach—yn hael enyn
Rhinwedd a hedd? rhanodd hwy hyd
Ein hen ddaear ni yn ddiwyd;
A ffordd bu ef, ffoi yr oedd bai
Oll o'r golwg, lle yr elai.
—Gweryddon, Dyffryn Ardudwy.
NID hwy y bu Mr. Humphreys heb dynu sylw y cynnulleidfaoedd nag y dechreuodd dalu ymweliad â hwy yn y cymeriad o weinidog yr efengyl. Cydgyfarfyddai ynddo amryw bethau oedd yn hawlio sylw, pa bryd bynag y "cymerai ei ddameg" i addysgu y bobl. Yr oedd ei ymddangosiad personol, ei ddull serchog a chyfeillgar, ynghyd a'r cyflawnder o hanesion difyrus a dywediadau pert, yn gwneud y byddai yn dda gan bawb, yn mhob cylch lle y byddai, eistedd wrth ei draed i wrando arno. Mae Mr. Rees Roberts, Harlech, wedi rhoddi i mi y desgrifiad canlynol o hono:
"Yr oedd Mr. Humphreys yn ddyn o ymddangosiad talgryf ac urddasol iawn; a phenderfyniad, nerth, a phwyll, yn argraphedig ar ei holl ysgogiadau; a hyny mewn llythyrenau mor freision fel y byddem ni, hogiau y Dyffryn, yn ymdeimlo'n union pan y canfyddem ei dremwedd yn y pellder, fod yn y fan hono ryw gryn lawer o "uwchder llwch y byd" yn ymsymud gyda'u gilydd. Yr oedd ei wynebpryd yn un tra awgrymiadol o bob teimlad dymunol, fel pe buasai natur, neu yn hytrach ei Dduw, wedi darparu treat i bob cynnulleidfa y talai Mr. Humphreys ymweliad â hi. Yr oedd pob teimlad haelfrydig a hynaws yn