Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddameg hon mor eglur fel nad oedd raid i neb fyned ato i ddywedyd wrtho, "Eglura i ni ddameg merlyn Mr. Pugh." Yn yr araeth dywedai hefyd fod pennod gyfan, sef y nawfed o'r 1 Corinthiaid, nas gwyddai ef pa gyfrif i'w roddi am ei bod mor ddieithr i'r Methodistiaid. Bu yn gwestiwn ganddo pa un ai heb gael ei darllen fel pennodau eraill y Beibl yr oedd y bennod hon, ai ynte heb dalu sylw i'w chynwysiad yr oeddynt, gan eu bod mor bell ar ol gyda golwg ar weithredu yn ol ei chyfarwyddyd. Wedi ei dwyn. i sylw fel hyn, aeth yn mlaen i'w hegluro.

Yn y flwyddyn 1850, yr ydym yn cael ystadegau Sir Feirionydd yn cael eu hargraffu am y tro cyntaf, ac y mae Anerchiad rhagorol o waith Mr. Humphreys at yr eglwysi ynddo; a chan ei fod yn cynnwys ei syniadau ef ar gynhaliaeth y weinidogaeth, yn nghyda'r sylw a dalai i bob peth yr Achos, ni a'i dodwn ef i lawr yn ei eiriau ef ei hun.

"ANWYL GARIADUS FRODYR,—Wrth edrych i'r cyfrifon uchod, gwelwn fod 5,505 o aelodau yn y sir hon. Duw yn unig a wyr pa sawl morwyn ffol a gwas anfuddiol sydd yn eu plith: rhaid gadael hyn i farn y dydd mawr. Gwelwn hefyd fod 80 wedi eu diarddel, yr hyn a ddengys fod llygredigaeth natur yn ffrwd gref, er pob moddion a arferir i arafu ei rhediad. Yr ydym yn byw lle y mae Satan yn trigo, ac yn cau ar aml un o blant Duw yn y carchar o wrthgiliad am ddyddiau lawer, y rhai a oddiweddwyd ar dir anghyfreithlawn. Cofiwn bererin Bunyan, yr hwn a aeth dros y gamfa o'r ffordd, am fod y llwybr yn esmwyth i'r traed, ac ar y cyntaf yn gydfynedol â'r ffordd. Ymddengys hefyd fod 108 wedi myned i dŷ eu hir gartref y flwyddyn ddiweddaf: y rhai hyn a lefant o'u beddau, 'Gweithiwch tra 'mae hi yn ddydd,'—' Am hyny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn.' Am hyny, frawd, 'y peth yr ydwyt yn ei wneuthur, gwna ar frys,' er darparu erbyn tragwyddoldeb. Gweddia yn daerach ac yn amlach; gâd i Wrandäwr gweddi weled dy wedd a chlywed 'dy lais. Gwelir hefyd fod yn y rhan ddwyreiniol o'r sir o 2,799 o aelodau, 2,603 o Ddirwestwyr, gan adael felly 96 heb fod: a bod yn y rhan orllewinol o'r sir 35 heb fod. Y mae yn ddrwg genym dros y rhai hyn, a theimlwn yn bell oddiwrth fwrw ein coelbren yn eu mysg. 'Am neillduaeth Reuben 'y mae mawr ofal calon.' Y mae hefyd 631 yn yr eglwysi heb fod yn aelodau o'r Ysgol Sabbothol. Tebygid na raid i hyn fod. Cynghorem bawb a allo godi a cherdded, i fod yn aelodau, pe nas gallent fyned i'r ysgol ond unwaith yn y mis. Byddant yn debycach o weddio drosti pan yn absennol, ond iddynt weithiau fod yn bresennol; oblegid allan o olwg, allan o feddwl. Ymddengys yn mhellach fod £1,199 9s. 6c. wedi eu casglu at y weinidogaeth; ac er fod hyn yn ffyddlondeb lled fawr ar flwyddyn fel yr un a basiodd, a'r cwbl yn rhoddion gwirfoddol, eto y mae yn rhaid fod y swm uchod yn dra theneu wedi eu daenu dros gymaint o wlad. Rhaid fod