rhywrai yn aberthu llawer er cynnal gweinidogaeth mewn cymaint o fanau am flwyddyn am beth llai na cheiniog yr wythnos i bob aelod. Ysgatfydd nad ydym yn teimlo yn hollol gywir ar y pen hwn. Mae aberthu eto yn ein dyddiau ninnau yn rhan o wasanaeth y Duw mawr. Y sawl a'r na aberthant at achos Crist, nis gallant dynu lles oddiwrth ei aberth ef.
"Y mae Mr. James, yn ei 'Eglwys o Ddifrif,' yn gwasgu y ddyledswydd hon at gydwybod yr Eglwys.—'Nid oes ond ychydig o bethau,' medd efe, 'ag y mae ysbryd haelionus yr oes hon yn gofalu llai am danynt na chynnaliaeth gysurus a chyfaddas y weinidogaeth gartref; ac, o ganlyniad, nid oes ond ychydig o rai mewn swyddau yn cael cynnaliaeth mor wael a'r gwŷr hyny, ar y rhai, yn llaw Duw, y dibyna holl achos efengyleiddio y byd. Y mae ysgrifenyddion cymdeithasau, cenadon at y paganiaid, ac ysgolfeistriaid, yn cael gwell tâl, a darpariadau helaethach yn cael eu gwneyd er eu cysur, na phregethwyr efengyl ogoneddus y bendigedig Dduw. Y pregethau a draddodir yw y pethau rhataf o bob peth rhad yr oes radlawn hon.' Ar ol desgrifio y bendithion a ddaeth yn fynych trwy un bregeth, dywed, 'Beth gan hyny a ddywedwn am holl bregethau blwyddyn neu oes? Meddyliwch am hyn, a dywedwch a ydyw deg swllt neu bunt yn ddigon o dâl i ddyn sydd yn difa ei nerth a'i oes trwy fyfyrio a llafurio er gallu cyfranu y fath fendithion a'r rhai hyn? Ai nid y nesaf peth i wyrth yw bod dyn yn nerthol, yn fywiog, ac o ddifrif yn ei weinidogaeth, a'i feddwl ar yr un pryd wedi ei lethu i'r llawr dan ofal am fara i'w deulu, gan ar yr un pryd ddarpar pethau gonest yn ngolwg pob dyn? Gristionogion! y mae arnoch eisieu i'ch gweinidogion redeg yn ffyrdd y gorchmynion a roddes Duw iddynt; am hyny, trwy eich haelioni, tynwch oddiarno y baich nas gall efe prin gerdded na sefyll dano. Os mynwn gael eglwysi o ddifrif, mi a wn yn dda ddigon fod yn rhaid i ni gael gweinidogion o ddifrif: ond hefyd os rhaid i ni gael gweinidogion diwyd a difrifol, rhaid i ni gael eglwysi haelionus.' Sylwer mor gynhes y mae apostol y cenedloedd yn cyfarch y Philippiaid ar y mater hwn; pen. iv. 10—19.
"Nis gellir dwyn yn mlaen achos yr efengyl heb i holl ganlynwyr ÿr Oen—yn esgobion, diaconiaid, ac aelodau—ymwadu â hwynt eu hunain, ac aberthu at ei achos. Gwneled pob dosbarth hyn, ni bydd gorthrymder ar neb: ond os bydd yr esgobion yn gorfod aberthu heb y diaconiaid a'r aelodau, byddant dan orthrymder mawr; neu os bydd y diaconiaid a'r aelodau yn aberthu heb yr esgobion, byddant hwythau dan orthrymder; ond aberthed pawb yn ol cyrhaedd eu llaw, try yn fendith i bawb heb orthrwm ar neb. Cadwed pob un gydwybod ddirwystr tuag at Dduw, gan gofio y bydd i'r neb a hauo yn brin, fedi hefyd yn brin. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda'ch yspryd chwi, frodyr. Amen."
Cefnogai Mr. Humphreys y fugeiliaeth hefyd mewn. dull ymarferol, trwy wneyd gwaith bugail. Dysgai ei gymydogion" ar gyhoedd ac o dŷ i dŷ." Rhoddai ei bresenoldeb yn yr holl gyfarfodydd perthynol i'r gynulleidfa ; ac ni ragorai yn fwy yn yr un o honynt nag yn y cyfarfod