Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eglwysig. Byddai ganddo Psalmau a Hymnau ac odlau ysprydol i'w hadrodd ar bob achos, a byddai y cwbl a lefarai "er adeiladaeth, a chynghor, a chysur"—er adeilaeth yr eglwys, er cyngor i'r afreolus, ac er cysur i'r rhai profedigaethus. Braidd na thybiem nad yn y gallu oedd ganddo i gyd-ymdeimlo a chysuro y rhai trallodus yr oedd cuddiad ei gryfder, ac yma y llechai ei fawr nerth. Dywed un hen gymydog iddo fel hyn, "Yr wyf yn cofio yn dda, pan yn lled ieuangc, am un tro neillduol yn seiat y Dyffryn, pan oedd Mr. Humphreys yn cysuro mam, hynod ofidus ei chalon, ar ol plentyn iddi, a ddygwyd ymaith gan angau. Darluniai yn dra effeithiol ddaioni Duw yn ei lywodraeth a'i ragluniaeth; ac fel y byddai, weithiau, yn cyflawni ei fwriadau grasol trwy oruchwyliaethau chwerwon, fel ag i roddi digon o sail i'w blant i'w garu ac ymddiried ynddo, a hyny o dan brofedigaethau miniog a llymion. Dangosai yn amlwg iawn y gorthrwm a'r baich a osodasid ar famau, pe buasai yn rhaid dwyn y boen a'r blinder cysylltiedig a magu, ac ymgeleddu eu rhai bach, ïe—

Bod yn neffro lawer gwaith
Trwy hirnos faith annyddan,"

ac oni buasai am y cariad angerddol a blanodd y Creawdwr Mawr a doeth yn eu mynwesau, tuag atynt, mor anmhosibl oedd i'r cariad yma fod heb i ni deimlo gofid cyfartal pan eu dygid oddiarnom. Portreadai ddoethineb, daioni, a chariad yr Hollalluog yn ei lywodraeth fawr a'i ymddygiadau tuag atom ni bechaduriaid, mor oleu ac effeithiol, nes oedd llifeiriant o ddagrau cymysgedig o hiraeth am ei baban a chariad at ei Duw, yn rhedeg ar hyd gruddiau gofidus y "fam drallodedig." Cymwysder tra angenrheidiol mewn bugail ydyw ei fod yn feddiannol ar y gallu i gydymdeimlo.

Cefnogodd Mr. Humphreys y Fugeiliaeth hefyd trwy gymeryd ei ddewis yn ffurfiol yn fugail. Y ffurf gyntaf ar yr ysgogiad hwn yn Sir Feirionydd ydoedd hon, sef, fod i bob eglwys ddewis rhyw weinidog i fod gydâ hwy yn y cyfarfod eglwysig unwaith yn y mis; ac yr oedd dwylaw yr eglwys yn cael eu gadael yn hollol ryddion i ddewis y neb a fynent o'r brodyr. Y tair seren ddisgleiriaf yn ffurfafen Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd y pryd hyny oeddynt y Parchedigion Richard Humphreys,