Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edward Margan, a Robert Williams, Aberdyfi; ac yr oedd bron yr holl eglwysi oedd yn cydymffurfio â'r cynllun hwn yn galw un o'r tri wŷr hyn. Yr oedd hyn yn ofid i'w meddyliau mewn mwy nag un ystyr; yr oedd arnynt ofn bod yn achos o dramgwydd i'w brodyr, ac yr oedd yn llafur mawr iddynt hwythau. Ond, er hyny, rhag rhwystro yr ysgogiad, yr oeddynt yn cydsynio a'r ceisiadau. Bu y diweddar Mr. R. Williams, Aberdyfi, yn myned i lawer o eglwysi dosbarth y Ddwy-afon, a Mr. Morgan a Mr. Humphreys yn myned i rai o eglwysi dosbarth y Dyffryn, Ffestiniog, a Dolgellau ; ac nid oedd yr un o honynt yn ffyddlonach, tra y parhaodd yr oruchwyliaeth fisolaidd. hono, na gwrthddrych ein Cofiant. Ond er fod Mr. Humphreys yn selog dros y Fugeiliaeth a chynhaliaeth y weinidogaeth, nid oedd dim yn eithafol ynddo gydâ hyn, mwy na chyda phethau eraill, ac ni byddai yn caru clywed neb arall yn myned yn rhy eithafol. Yr oedd efe ac un o flaenoriaid eglwys Pennal wedi bod yn y Cyfarfod Misol yn Nolgellau, a bu ymdriniaeth helaeth yn y cyfarfod hwnw ar yr achos hwn; teimlodd y blaenor yn ddwys, ac aeth adref a'i galon yn llosgi o zêl dros y Fugeiliaeth, ac yn y cyfarfod eglwysig dechreuodd roddi adroddiad, ac wrth ei glywed mor zelog ofnai Mr. Humphreys i'w zel wneyd niwed i'r achos, gan y gwyddai nad oedd pawb yn yr eglwys yr un deimlad â hwy eu dau; a phan y clywai Mr. Humphreys y blaenor yn poethi wrth roddi ei adroddiad, dywedai yn ei ddull tawel ei hun, "Gently, William, gently." Yna arafai Mr. James am funud; ond ail dwymnai ei yspryd drachefn, a dechreuai lefaru yn arw. Gwaeddai Mr. Humphreys eilwaith, "Gently, gently, William;" a dyna lle y bu y ddau—y blaenor yn gyru, ac Humphreys yn dal rhag iddo fyned ar draws y rhai oedd yn methu symud yn ddigon buan o'r ffordd.

Gwasanaethodd Mr. Humphreys ei Gyfarfod Misol hefyd trwy ei gynrychioli mewn eglwysi ar achosion neillduol. Yr oedd ei ddoethineb, ei fwyneidd-dra, a'i fedrusrwydd y fath, fel y syrthiai y goelbren yn fynych arno i fyned i ddewis blaenoriaid, ac i heddychu eglwysi lle y byddai annghydfod wedi tori allan. Gwnaeth y sylw canlynol mewn eglwys lle yr oeddynt yn dewis blaenoriaid, "Wel, y mae yma un wedi ei ddewis, ac mi allwn i feddwl eich bod wedi gwneyd yn iawn wrth ddewis y brawd hwn;