Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oblegid yn un peth yr wyf fi yn tybied ei fod yn feddiannol ar common sense. Y mae common sense wedi ei sancteiddio, lle bynag y bo, yn debyg iawn o wneyd lles. Y mae ffyliaid yn dda i rywbeth, bid siwr, onide ni buasai yr Hollalluog yn eu gwneyd; ond nis gwn i ddim i ba beth y maent da, os nad i brofi amynedd pobl eraill ; ond pa fodd bynag nid ydynt yn dda i fod yn flaenoriaid eglwysig." Ond gan y cawn achlysur i alw sylw atto yn y cysylltiadau hyn mewn pennodau eraill ni a ymattaliwn rhag i'r bennod hon fyn'd yn rhy faith.

Nid o fewn cylch ei Gyfarfod Misol yn unig yr oedd ein gwron yn cael ei gydnabod yn fawr, ond yr oedd yn llenwi lle pwysig yn y Gymanfa hefyd. Mae yn wir iddo fod am flynyddoedd yn cadw draw o honynt; ond wedi iddo ddechreu myned iddynt, dechreuodd deimlo mai da oedd cymdeithas ei frodyr iddo; a theimlent hwythau yr un modd mai da oedd ei bresenoldeb iddynt. Yr oedd ei syniadau ef yn llawer eangach na syniadau llawer o'r cyfeillion, ac achosai hyny wrthdarawiad weithiau. Ond yr oedd ei ddull ef mor bwyllog a boneddigaidd fel na byddai galanastra mawr yn cael ei achosi trwy y gwrthdarawiad bron un amser. Rhoddodd derfyn ar ymryson lawer gwaith â gair neu ddau. "Cofus genyf," ebe y Parch. Griffith Hughes, "am Sasiwn, pryd yr oedd rhai o'r gwyliedyddion yn swnio udgorn larwm nes peri dychryn yn y gwersyll, a hyny am fod rhai yn rhoddi gormod o le i allu dyn yn eu pregethau. Ond cyfarfyddodd Mr. Humphreys, y gâd trwy ofyn, Beth y mae neb yn pregethu ar allu a dyledswydd dyn, heblaw ei gyfrifoldeb fel creadur rhesymol i'w Gwaredwr ?' Ar hyn gofynodd John Elias, iddo, A fedrwch chwi gael y creadur heb y pechadur ?' Atebodd Mr. Humphreys ef trwy ofyn cwestiwn arall, A fedrwch chwithau gael y pechadur heb ei fod yn greadur?' 'Nis gwn,' ychwanegai Mr. Hughes, 'i mi weled yr hen esgob yn cael ei orchfygu, ac yn cymeryd ei godwm, mor esmwyth erioed. Eisteddodd i lawr gan wenu yn siriol, fel y rhan fwyaf o'r frawdoliaeth. Dro arall, pan oedd ymosodiad yn cael ei wneyd gan rai o'r hen frodyr ar y pregethwyr ieuaingc,—dywedai un fod arnynt eisiau cael eu pregethwyr ieuaingc yn bur. Ar hyn gofynodd yr Hybarch weinidog o'r Dyffryn, 'A ydych chwi eich hunan yn bur?" Pwy bynag oedd y brawd hwnw, a