Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

beth bynag oedd ei syniadau am dano ei hunan, nid oedd yn gallu honi perffeithrwydd, ac felly cafodd y gwyr ieuaingc ddiangc yn nghysgod ei anmherffeithrwydd ef."

Un tro yr oedd Cadwraeth y Sabboth yn destyn ymdriniaeth yn Sasiwn y Bala; ac yr oedd yno waharddiadau difrifol yn cael eu rhoddi rhag gwneyd dim oedd yn y mesur lleiaf yn tueddu at halogi y Sabboth. Yr oedd y gwaharddiadau yn cymeryd i fewn fwyta, gwisgo, cysgu, ymolchi, &c., a'r ymdriniaeth yn tueddu i edrych mwy ar awdurdod Duw yn sefydliad y Sabboth nag ar ei ddaioni. Mynych mynych y dywedid yn y drafodaeth y dylid cofio yn wastad mai dydd Duw ydyw. Ar hyn cododd Mr. Humphreys a dywedodd, "Ie, ïe, y mae eisiau cofio mai ein dydd ninau ydyw hefyd, oblegid y Sabboth a wnaethpwyd er mwyn dyn.' Y mae yn well dydd, a gwell gwaith, a pha niwed i'r bobol gael gwell dillad, a thipyn gwell bwyd hefyd." Dybenodd y cyfarfod ar hyn gydâ sirioldeb mawr. Gellid ychwanegu yma na byddai byth yn caru gweled neb mewn dillad cyffredin ar y Sabboth os byddai ganddynt rai gwell. Llawer gwaith y dywedodd pan y gwelai rai yn myned i addoli mewn dillad rhy gyffredin i'w hamgylchiadau, Nid yw hona yn wisg moliant, hwn a hwn."

Arno ef y disgynai y coelbren fynychaf, lawer yn y Cymanfaoedd i annog y gynnulleidfa i ymddwyn yn addas i'r achos oedd wedi eu casglu at eu gilydd, a byddai bob amser yn llwyddo i gael llygaid a chlust y dyrfa fawr fyddai o'i flaen; ac os byddai eisiau gwneyd casgliad at ryw achos cyhoeddus, efe fyddai y beggar bob amser. Wrth annog i haelioni, dywedai un tro fel hyn, "Yr ydych yn cael y fraint o roi i Wr Mawr, ac nis gwyddoch pa le y terfyna hyny. Pan briododd Lady Vaughan, yr oedd llawer yn myned i edrych am dani, ac yn dwyn eu hanrhegion iddi; ac yn eu plith fe aeth un hen wraig dylawd, a dywedodd wrth y Lady, Nis gwn beth i'w roddi i chwi, gan fod genych gymaint o bethau,' ac ychwanegai, dyma i chwi ddwy geiniog i brynu y peth a fynoch a hwy.' Boddhawyd y Lady mor fawr fel ag y dywedodd wrth y boneddigesau a fyddai yn arfer galw am rodd yr hen wraig; ac wedi clywed am dani, byddent yn arfer galw gyda hi, ac yn rhoddi rhywbeth iddi bob. amser; ac o'r diwedd fe drefnwyd cyfran blynyddol iddi,