Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at ei chynnal yn gysurus weddill ei hoes. Peth fel yna ydyw rhoddi i Wr mawr." Pan y byddai y casglyddion yn arfer tramwy trwy y gynnulleidfa, arferai ddyweyd, Hyna, brithwch dipyn ar y boxes, a gadewch i ni eu cael fel defaid Jacob yn fawr frithion ac yn fân frithion."

Trefnwyd iddo hefyd gymeryd rhan yn y Gwasanaeth Ordeinio amryw weithiau. Y tro cyntaf iddo oedd yn Sasiwn y Bala, Mehefin, 1841. Ei destyn y pryd hwnw ydoedd, "Dyledswydd yr eglwys tuag at y gweinidog." Drwg genym ddeall nad oes cofnodion o'r Anerchiad hwn yn argraffedig, ond y mae llawer o'r sylwadau yn aros ar gôf y rhai oedd yn ei wrandaw, at yr hyn yr ydym eisoes wedi cyfeirio. Dyna y pryd y llefarodd Ddammeg Merlyn Mr. Pugh." Yn y flwyddyn 1851, y mae drachefn yn cael ei benodi i roddi y "Cyngor" i nifer o frodyr yn Sasiwn Caernarfon. Ysgrifenwyd y "Cyngor" wrth ei wrando gan Ysgrifenydd y Gymdeithasfa, ac am ei fod mor dda, ac mor debyg i Mr. Humphreys, ac yn cynnwys cymaint o wirioneddau ag y dylai pob pregethwr ieuangc feddwl am danynt, ni a'i dodwn ef i mewn ar ddiwedd y bennod hon. Traddododd Araeth drachefn ar "Natur Eglwys," yn Nghymdeithasfa Machynlleth, Mehefin, 1853; a thrwy ymdrech yr Ysgrifenydd y mae sylwedd hon etto wedi ei ddiogelu yn y "Drysorfa"; ac er mwyn y rhai nad ydyw y Drysorfa" yn eu meddiant, ni a'i dodwn i mewn yn ei "Gofiant." Bu yn Nghymanfa Bangor hefyd yn Medi, 1855, yn traethu ar " Ddyledswyddau yr Eglwys at y Gweinidog," ond y mae yn ddrwg genym fod y cyngor hwn wedi myned ar goll; ond hyny sydd yn aros ar gof y rhai oedd yn bresenol. Cawsom ychydig o'r sylwadau gan gyfaill oedd yn ei wrando; dywedai

1. Byddwch ffyddlon i'r Efengyl trwy weddïo llawer dros ei chenadon.

2. Hyd y mae ynoch, byddwch barchus o honynt bob amser. Nid ydyw yn deilwng i'r rhai nad ydynt yn rhoddi parch, dderbyn parch.

3. Byddwch garedig wrthynt; ysgydwch law yn gynes â hwy. Y mae yn hawdd deall teimlad y galon trwy ysgydwad y llaw. Yr ydych yn ysgwyd llaw gydag ambell un fel pe baech yn cydio yn nhafod buwch wedi marw.

4. Hefyd dylech deimlo dros gynnaliaeth y weinidogaeth. Y mae yn rhesymol ac yn bosibl i'r lluaws gynnal