Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr ychydig; ond nid yw unol â natur pethau i'r ychydig gynnal y lluaws. Er enghraifft, dywedwch, mewn ardal wledig, gall ardal gynnal un crydd, neu un doctor, yn gysurus; ond ni buasai yn rhesymol, yn ol natur pethau, i'r un doctor a'r un crydd gynnal yr ardal.

Terfynwn y bennod hon gydâ llythyr a ysgrifenwyd dros y Gymanfa, gan Dr. Edwards, at Mr. Humphreys yn ei gystudd.

BALA, Ebrill 24ain, 1862.

ANWYL GYFAILL,—

Hysbysodd Mr. Morgan i'r Gymdeithasfa yn Nghorwen eich bod yn cofio atynt, yr hyn a dderbyniwyd gyda theimlad dwys o hiraeth am eich presenoldeb yn ein cyfarfodydd, a dymuniad am i'r Arglwydd eich cynnal a'ch cysuro yn eich cystudd. Penodwyd fod i mi ysgrifenu atoch dros y Gymanfa i fynegu eu cydymdeimlad â chwi, ac â'ch priod. Nid ydym yn gallu cymodi ein hunain â'r meddwl na chawn eich gweled eto yn ein cymanfaoedd; lle yr oedd eich ymadroddion synwyrlawn bob amser yn gweini addysg ac yn creu sirioldeb a bywiogrwydd. Bydd llawer o'ch dywediadau mewn cof fel diarhebion yn mysg y Cymry am oesoedd ; ac yn enwedig bydd y golygiadau a draethwyd genych am ddaioni Duw, ac addasrwydd y drefn fawr i gadw pechadur, yn gysur i filoedd pan y byddwch chwi wedi eich cyfarch gan eich Meistr fel gwas da a ffyddlon," ac wedi myned i mewn i lawenydd eich Arglwydd. Diammeu genyf fod y gwirioneddau a draddodwyd genych i eraill, am gynifer o flynyddoedd, yn gynnaliaeth i'ch meddwl yn eich cystudd: oblegid y mae pethau dianwadal, trwy y rhai y gallwn gael cysur cryf.

Yr wyf yn dymuno anfon fy nghofion serchocaf atoch chwi a'ch priod.

Ydwyf, anwyl gyfaill,

Yr eiddoch yn ddiffuant,

LEWIS EDWARDS.

Sylwedd y "Cyngor" a roddwyd gan Mr. Humphreys yn Nghyfarfod yr
Ordeinio yn Nghymdeithasfa Caernarfon, Medi, 1851.

PAN anfonodd Iesu Grist ei ddisgyblion allan i bregethu yr efengyl dywedai wrthynt ei fod yn eu hanfon "fel defaid yn mhlith bleiddiaid;" "byddwch chwithau," am hyny meddai wrthynt, "gall fel y seirph, a diniwed fel y colomenod." Nid yn wenwynig fel y seirph, ac nid yn meddu colyn fel y seirph, ond yn gall fel y seirph. Mae y seirph yn ddiarebol am eu cyfrwysdra; ac mae y colomenod hefyd yn dra diniwed. Maent yn dlysach ac yn ddiniweitiach na'r cigfran. Yn awr, wrth annog ei ddisgyblion i arfer synwyr y sarph, a diniweidrwydd y golomen, yr oedd ein Harglwydd am ddysgu yr angenrheidrwydd am ddoethineb, sef doethineb gyda golwg ar eu hymddygiadau. Mae doethineb arall yn bod. Doethineb yn y Duw mawr oedd edrych am ddyben teilwng, ac arfer y moddion goreu i gyrhaedd y dyben hwnw. Felly mewn dyn, gyda golwg