Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ei achos ei hunan, y ddoethineb uchaf iddo ydyw sefydlu ei feddwl ar amcan teilwng, ac arfer y moddion mwyaf priodol yn mhob amgylchiad i'w gyrhaedd.

Ond yn awr, frodyr, wedi cael fy ngalw i roddi gair o gynghor i chwi ar yr achlysur presennol, yr oeddwn yn amcanu galw eich sylw at ddoethineb fel y mae yn rhan o ymddygiad teilwng ynoch fel gweinidogion Duw. Mae gwybodaeth yn golygu pethau, a doethineb yn golygu ymddygiadau. "Yn ol ei ddeall," medd Solomon, "y canmolir gŵr; neu yn ol y Saesoneg, "yn ol ei ddoethineb." Nid yn ol ei ddysg, ac nid yn ol ei ddoniau, yn unig, rhaid cael doethineb hefyd ynddo, onide bydd yn tynu oddiwrth hyny, ac yn dyfetha pa ddylanwad bynag er daioni a allasai fod gan y dyn trwy ei ragoriaethau eraill. Mae hyn yn angenrheidiol i bawb, ond i neb gymaint ag i weinidogion yr efengyl. Mae y ddoethineb yma yn angenrheidiol i'w harfer genych gartref ac yn mhlith eich cymydogion; yn y tai a'r cwmpeini yr ymwelwch â hwynt; yn y pulpud; ac yn eich ymdriniaeth â holl achos yr eglwys. Ond yn

I. MAE Y DDOETHINEB HON I'W DANGOS EI HUNAN GENYCH GARTREF, AC YN EICH CYMYDOGAETH. Mae pob dyn lawer iawn gartref. Yno y mae ei wir gymeriad i'w ganfod. Yr hyn yw y dyn ar ei aelwyd ei hunan, ac yn ei gymydogaeth, ydyw mewn gwirionedd. Yn awr y mae gan ddoethineb neu annoethineb fwy na dim arall tuag at sefydlu cymeriad anrhydeddus neu ddarostyngedig i ddyn yn y cylchoedd hyn. Fe ddaw y ddoethineb yma i'r golwg,

1. Mewn gochel anwadalwch ac ansefydlogrwydd. Mae y doeth bob amser yn ffyddlawn iddo ei hunan. Nid ydyw byth yn llai na'i air. Nid oes odid ddim yn iselu mwy ar ddyn yn ei gymydogaeth na meddwl nad oes dim ymddiried i'w roi ynddo; wedi cael addewid ganddo na bydd wedi newid ei feddwl cyn amser ei chyflawni. Mae y parch sydd gan y doeth iddo ei hunan yn sicrhau i bwy bynag y rhoddo addewid gyflawniad ffyddlawn o honi.

2. Daw i'r golwg mewn gochel troion bychain a budron. Mae annoethineb yn fynych iawn yn ei ddangos ei hunan mewn pethau bychain. Ond os bydd pethau bychain yn dygwydd yn aml y maent yn myned yn bethau mawr. Nid yw dyferyn o wlaw ond peth bychan, ond y mae llawer o honynt yn dyfrhau y ddaear. Peth yn anurddo dyn yn ddirfawr ydyw tro bychan, gwael. "Gwybed meirw a wnant i enaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog, o herwydd doethineb ac anrhydedd."

3. Daw y doethineb yma hefyd i'r golwg mewn cadw pellder priodol oddiwrth ddynion. Mae pob dull ysgoewaidd, uchelfrydig, a thrahaus yn dra beïus. Eto y mae rhyw ddynion yn mhob cymydogaeth ag y daw doethineb y gweinidog i'r golwg mewn sefyll ar dir nas gallant hwy ddyfod ato. "Cilia oddiwrth cyfryw," medd Paul wrth y gweinidog ieuangc am ryw rai. Dylai ofalu cadw oddiwrth y dynion nas gall ef yn ddiogel wneuthur cyfeillion o honynt.

4. Daw i'r golwg mewn gochel bod yn ysgafn gyda phethau pwysig, na gwario ein difrifwch gyda phethau dibwys. Mae pethau pwysig yn bod: