y Duw mawr a'i briodoliaethau, enaid dyn, cyfrifoldeb dyn i Dduw, a'i gyflwr rhyngddo â Duw, &c. Nid yw y rhai hyn i gael cyfeirio atynt ond gyda'r difrifoldeb, y gwylder, a'r parch mwyaf. Mae pob ymddygiad ysgafn gyda'r pethau hyn mewn pregethwr, nid yn unig yn arwyddo diffyg teimlad priodol tuag atynt yn y galon, ond diffyg y doethineb a'i harweiniai i barchu ei swydd. Y mae genym ni hefyd bethau bychain i'w gwneyd. Nid oes galwad am yr un pwysigrwydd gyda'r pethau hyny a chyda pethau pwysig. Meddyliwch am ŵr yn darllen adnod, ac yn darllen pob gair ynddi mor uchel ag y gallai, byddai yn anmhosibl i hwnw roddi y pwyslais priodol ar yr adnod hono. Yr un modd, pe byddai dyn gyda'r un difrifwch wrth dalu swllt ag wrth addoli, byddai yn anmhosibl iddo ddangos dim gwahaniaeth rhwng pethau cyffredin a phethau cysegredig.
5. Daw i'r golwg mewn gochel ymyraeth â phethau personol a theuluaidd dynion eraill. Mae dynolryw yn hoffi gweled dynion yn gofalu am danynt, yn enwedig y maent yn hoffi hyny yn ngweinidogion yr efengyl. Ond nid oes neb yn hoffi i'r gofal hwnw fyned yn ymyraeth a'u materion hwy. Nid oes ffordd rwyddach i bregethwr golli ei ddylanwad ar gymydogaeth na thrwy fod yn greadur ymyrgar, cleberllyd; yn ymddangos â digon o amser ganddo i gadw gwinllanoedd pawb eraill, ond yn esgeuluso yn hollol ei winllan ei hun. Dyma un o arwyddion sicraf annoethineb.
6. Fe ddaw y doethineb teuluaidd a chartrefol hwn i'r golwg hefyd mewn llunio y dull o fyw at y sefyllfa. Peth yn darostwng dyn yn fawr yw ei fod yn methu byw, yn enwedig mewn amgylchiadau ag y mae eraill yn gallu. Fe allai fod rhywbeth yn ein trefn ni, fel Methodistiaid, ag sydd mewn rhyw ystyr yn anfantais i ddyn wneuthur cyfiawnder âg ef ei hunan yn ei amgylchiadau, a chyfiawnder â'r weinidogaeth hefyd. Ond, yn gyffredin, fe geir gweled mai yr anhawsdra mwyaf, yn y diwedd, ydyw y rhai y mae dynion yn ei wneyd iddynt eu hunain, trwy wastraff ac afradlonedd. Byw uchel a chostus teulu llawer un sydd wedi ei wânu â llawer o ofidiau.
II. FE ELWIR ARNOCH I YMDDWYN YN DDOETH YN Y TAI AC YN Y CWMNIAU YR ELOCH IDDYNT. Yr ydym ni, bregethwyr y Methodistiaid, yn myned yn ein tro i lawer iawn o dai, ac at amrywiol fath o deuluoedd. Mae yn beth mawr at ddyrchafu ein cymeriad i ni fod yn mhob man yn ddoeth fel dynion, fel Cristionogion, ac fel gweinidogion Duw. Fe ddaw doethineb gweinidog yr efengyl i'r golwg mewn lleoedd felly,
1. Trwy ymocheliad manwl rhag cymeryd gwendidau ei frodyr yn destynau ei ymddyddanion. Pan y byddo brawd wedi syrthio i ryw bechod gwaradwyddus, nid oes eisieu i ni amddiffyn hwnw; ond y mae beiau pregethwyr yn gyffredin yn fychain. Sylwai gweinidog Americanaidd nad oedd odid un o ugain o'r gweinidogion adnabyddus iddo ef, oeddent wedi colli eu traed, wedi syrthio i ddim gwaradwyddus amlwg, ond rhyw fân feiau, yn cynnyddu yn lluosog, ac felly rhyngddynt yn andwyo eu cymeriad. Yr ydym ninnau wedi gweled rhywbeth tebyg. Y mae ysywaeth, eto, ambell un yn ein plith nad oes dim yn ei dynu i lawr ond anghymeradwyaeth o'i frodyr.
2. Fe ddengys y doeth ei hunan felly trwy ochel, yn mhob modd, ei