Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymeryd ei hunan yn destyn ei ymddyddan. Mae dyn yn meddwl llawer, y naill ffordd neu y llall, am dano ei hun. Mae yn greadur pwysig iddo ei hunan. Mae dyn mewn cyfeillach yn agored i ymddyddan yn ddifyr, ac y mae yn hawdd iddo, heb wyliadwriaeth, lithro iddo ei hunan. Yn awr, yn hyn y daw doethineb i'r golwg. Ychydig iawn fedr dyn siarad am dano ei hunan heb fyned yn feius. Ychydig iawn, yn wir, sydd gan ddyn i'w ddangos o hono ei hunan.

3. Byddwch ddoeth eto, fy mrodyr, trwy fod bob amser yn hawdd eich boddio. Mae yn wrthun iawn gweled pregethwr yn edrych yn sur ac yn angharedig, yn anhawdd ei foddio ar ei ymborth, ar ei wely, ar cuchio ar y bwyd pan y bydd yn ddifai i'w ddannedd o, ac yn llawer gwell, hwyrach, na dim a allai efe gael gartref. "Mae y ddoethineb sydd oddiuchod," yn mhlith pethau eraill rhagorol a berthyn iddi, "yn foneddigaidd a hawdd ei thrin."

4. Fe ddaw doethineb dyn i'r golwg mewn cyfeillach mewn peidio dywedyd y cwbl a wyr braidd. Hwyrach bod eisieu dywedyd hyn wrthyf fi fy hunan gymaint a neb hefyd. Yr un pryd, y mae yn arwyddo gwendid yn mhwy bynag. Mae eisieu ystyried, nid yn unig nad oes ond y gwirionedd i'w ddywedyd, ond hefyd pa wirionedd sydd i'w ddywedyd, oblegid "y mae llawer gwir gwaethaf ei ddywedyd." Mae eisieu i ni feddwl hefyd am y gwir sydd i'w ddywedyd, ai ni a ddylai ei ddywedyd. Y mae yr un ddoethineb yn cadw ei pherchen rhag holi ac ymofyn fel pe byddai am gael gwybod cymaint ag a wyr pawb eraill.

III. Y MAE DOETHINEB HEFYD I'W DANGOS GENYCH, FRODYR, YN Y PULPUD. GWR Y PULPUD YW Y PREGETHWR. Yno yn arbenig y mae dros Grist, ac yno, yn anad un man, y mae rhaid arno wrth ddoethineb. "Hawdd," medd yr hen air," adwaen ffŵl ar gefn ei geffyl," wedi ei godi oddiwrth y ddaear, yn ddigon uchel. Felly hawdd iawn yw adwaen yr ynfyd yn y pulpud. Daw doethineb i'r golwg yno genych,—

1. Trwy ochel pob dull annaturiol i chwi eich hunain. Y mae y Duw mawr wedi creu amrywiaeth yn mhlant dynion, ac y mae yr amrywiaeth hwn yn brydferth iawn. Mae yn dyfod i'r golwg yn y wyneb, yn y llais, yn y llaw—ysgrifen, &c. Mae pob un yn harddaf yn ei ddull ei hun. Nid oes dim benthyciol yn ateb cystal. Y mae y clochydd, weithiau, yn edrych yn bur dda wedi cael coat ar ol ei feistr, ond "Robin y clochydd," ydyw ê yn y diwedd. Felly chwi gewch rai pregethwyr yn cymeryd osgo hwn, tôn y llall, &c., ond eu hunain ydynt hwy wedi y cwbl. Y mae cryn lawer o ostyngeiddrwydd yn perthyn i'r tylwyth yma hefyd. Nid ydynt, y mae yn amlwg, yn eu meddwl eu hunain yn gynlluniau teilwng i eraill. Yr un pryd y mae yn wendid sydd yn taflu dyn yn isel iawn yn meddwl pob dyn call; am hyny, frodyr, ciliwch oddiwrtho.

2. Daw doethineb hefyd i'r golwg yn y pulpud mewn gochel pregethu y naill wirionedd i anfantais gwirionedd arall. Peth eithaf gwael, ac anonest, ac annoeth ydyw canmol dyn arall ar gost ei gymydog, neu ganmol un pregethwr ar draul pregethwr arall. Y mae rhywbeth tebyg yn dygwydd weithiau yn y pulpud. Pregethir cyflwr dyn weithiau fel ag i ddinystrio ei gyfrifoldeb. Dygir allan weithiau ras Duw, fel ag i wneyd yn