afreidiol ddyledswydd ddyn, a phryd arall dangosir gwaith dyn fel ag i gymylu gras Duw. Y mae eisieu cadw y ddysgl yn wastad. Y mae y gwirionedd yn llesol, megys ag y mae yn yr Iesu. "Pob gair a ddaw allan o enau Duw," sydd i'w dderbyn ac i'w bregethu genym ni, oblegid ar hwnw y gall dyn fyw. Pe torech y gwirionedd, ni allech fyw ar ei haner. Rhaid i chwi ei gael o i gyd, os ydych am fyw trwyddo, a'i bregethu i gyd os mynwch fywyd i'ch gwrandawyr ynddo.
3. Fe ddaw doethineb i'r golwg hefyd trwy ochel eithafion gydag un athrawiaeth. Y mae dyn, rywfodd, yn dueddol i ryw eithafion. Ond y mae doethineb yn arwain "ar hyd ffordd cyfiawnder, ac hyd ganol llwyb barn." Calfiniaid ydym ni. Nis gallwn felly lai nag edrych ar Arminiaeth fel yn tynu at eithaf tra pheryglus. Ewch ychydig pellach, a dyna chwi dros y terfyn i Phariseaeth. Felly y mae Uchel-Galfiniaeth yn tynu at eithaf llawn mor beryglus yr ochr arall. Ewch ychydig pellach. a dyna chwi dros y terfyn mewn Antinomiaeth a phenrhyddid. Y man diogelaf ydyw canol y ffordd, a than arweiniad doethineb ni a fyddwn yno.
IV. OND HEFYD, FRODYR, BYDD YN ANGENRHEIDIOL ARNOCH WRTH DDOETHINEB YN EICH HOLL YMDRINIAETH AG ACHOS YR EGLWYS. Nid yw y pregethwr bob amser yn y pulpud. Y mae rhan fawr, ac ar ryw ystyr y rhan anhawddaf, o'i waith ef, yn yr eglwys, ac er llwyddo ynddo nid oes dim yn fwy angenrheidiol na doethineb. Daw eich doethineb yn yr eglwys i'r golwg,—
1. Mewn gochel pob math o dra-awdurdod. Peth peryglus a niweidiol iawn i'r eglwys yw, bod y gweinidog heb awdurdod briodol ganddo. Y mae awdurdod yn perthyn i'r swydd. Y mae hono i'w chadw ganddo gydag eiddigedd priodol. Gresynus yn wir ydyw cyflwr yr eglwys hono nad oes llywodraeth yn cael ei chynnal ynddi, yn ol rheolau y Testament Newydd. Y mae y cyfryw wedi peidio a bod yn eglwys i Iesu Grist. Nis gall honi un berthynas a "theyrnas nefoedd." Ond er fod y gweinidog yn rhyw lun o lywydd, eto nid yw i dra—awdurdodi. Os bydd yn dra-arglwydd, nid yw yn debyg o fod yn hir yn arglwydd. Ni ddylai ein llywodraeth gael ei theimlo. Yr oedd gŵr yn Llundain yn edrych ar ol ysgol Mr. Hill, a chanddo drefn ragorol arni. Gofynwyd iddo unwaith pa fodd yr oedd yn medru cadw trefn mor dda ar gynifer o blant. Atebodd yntau, "Cario y deyrnwialen yr ydwyf, a chymeryd digon o ofal rhag i neb ei gweled." Felly y dylem ninau wneyd, ac at hyn y mae doethineb yn rhagorol i gyfarwyddo.
2. Daw i'r golwg mewn gochel pleidgarwch a derbyn wyneb. Nis gall na bydd i ni gyfeillion, ac ond odid berthynasau yn yr un rhwymau a ni ac eraill. Ond yn yr eglwys nid ydym i adnabod neb yn ol y cnawd ac wrth ein mympwy ni. Y mae derbyn wyneb yn yr eglwys yn wfft. Nis gall odid ddim fod yn fwy o anfantais i ni i fod yn lles, nac yn fwy anhyfryd i'r rhai y byddom yn eu plith. Un o nodau "y ddoethineb sydd oddiuchod," ydyw, ei bod yn "ddiduedd."
3. Daw i'r golwg mewn gochel difaterwch am, ac oerfelgarwch at, yr holl frawdoliaeth. Gall fod i ni gyfeillion mwy mynwesol. Tybygid fod gan Iesu Grist ei hunan ryw hoffder neillduol yn Ioan. Eto ni ddylem fod yn