draws wrth neb. Mae yn gweddu i ni fod yn agos at yr holl aelodau, yn ystyriol o'n perthynas â hwynt, ac yn deimladol o'n cyd—ddibyniaeth ar y Duw mawr, ac o'n cyd—gyfrifoldeb iddo.
4. Gyda golwg ar ddysgyblu y rhai afreolus, y mae mawr angen doethineb. Ni ddylid goddef y rhai drwg. Y mae y rhai sydd yn pechu i'w ceryddu yn ngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill. Rhaid bwrw y dyn drygionus o gynnulleidfa y saint. Tŷ Dduw ydyw. Sancteiddrwydd sydd yn gweddu iddo. Ond yn ngweinyddiad y ceryddon hyn, y mae yn hawdd iawn llithro i—yspryd ac agwedd gwbl anghristionogaidd, a gwyro barn heb amcan i hyny. Y mae rhai yn dysgyblu yn hollol yn ol clywed eu clustiau, yn ol sŵn y wlad. Nid yw yn anmhosibl i ryw hen deimlad tuag at y beius ddyfod i mewn i ddrwgliwio ei drosedd a dylanwadu yn helaeth ar yr ymddygiad tuag ato. Ond y cwestiwn i ni yw, beth wnaeth y dyn? Y galon dan ddylanwad cariad, a hwnw yn cael ei gyfarwyddo gan ddoethineb, gyda sylw manwl ar reolau gair Duw, yn unig a'n ceidw rhag methu. Mewn pethau gwladol y mae cyfraith i'w chael. Ond gyda phethau teyrnas nefoedd, nid oes genym ni yr un gyfraith a nemawr rym ynddi ond cyfraith cariad mewn doethineb. Os mynwn lwyddo, rhaid i ni o hyd gael ysbryd nerth, a chariad, a phwyll.
5. Yn olaf, fy mrodyr, coleddwch deimlad difrifol yn mhob man o'ch angen am arweiniad Yspryd y Duw mawr yn y cyfan o'i wasanaeth. Yn mha le bynag y byddoch, ac i ba le bynag yr eloch, pa un bynag ai gartref ai oddicartref, yn y pulpud ai yn yr eglwys, cofiwch eich bod yn weinidogion Crist. Meithrinwch deimlad o'ch dibyniad ar Dduw, o'ch rhwymau i'r efengyl, ac o'r cyfrif sobr sydd yn ein haros oll ger bron gorseddfaingc Crist. A Duw yr heddwch a fyddo gyda chwi. Amen.
Sylwedd Araeth a draddodwyd gan Mr. Humphreys yn Ngwasanaeth yr Ordeinio ar Natur Eglwys, yn Nghymdeithasfa Machynlleth, Mehefin, 1853.
MAE eglwys Crist, fe dybygid wrth ddarllen y Beibl, i'w golygu yn ddirgeledig ac yn weledig. Yr eglwys ddirgeledig ydyw yr holl gredinwyr. Pawb sydd wedi derbyn Crist—wedi eu geni o Dduw—wedi eu creu yn Nghrist Iesu i weithredoedd da―maent yn perthyn i eglwys ddirgeledig Crist. Mae y rhai hyn mewn undeb bywiol â Iesu Grist ei hun—yn aelodau o hono—yn gwneyd i fynu y corph ar ba un y mae efe yn Ben. Dyma yr eglwys, yr hon y mae Duw wedi ei roddi ef "yn Ben uwchlaw pob peth" iddi. Mae yr eglwys weledig yn gynnwysedig o ffyddloniaid, ar y cyfan, y rhai sydd yn credu yr efengyl—rhai yn cydgyfarfod lle y pregethir yr efengyl, a lle yr ymarferir yn gydwybodol âg ordinhadau yr efengyl. Nyni yma heddyw, yn ol iaith y Testament Newydd, ydym eglwys i Dduw. Pa le bynag y byddo credinwyr—rhai yn gwrandaw pregethiad y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu—yn derbyn Crist—yn ei