Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

annog, ceryddu, a thori allan os bydd eisieu. Yn y weledig y gwneir hyn; nid oes dori allan o'r ddirgeledig. Ond pan y torir allan yn y weledig, y ddirgeledig sydd yn teimlo; fel y dywedodd un, "Pan y byddo y cŵn yn cael eu ffrewyllu, bydd y plant yn crïo."

5. Yn yr eglwys weledig y mae swyddogion, ac nid yn unig aelodau cyffredin; ond nid oes yn y ddirgeledig ddim swyddogion fel y cyfryw Maent ynddi hi oll yn lefel â'u gilydd—yn blant i'r un Tad—yn bwyta wrth yr un bwrdd—yr holl deulu yn freninoedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad ef. Ond yn y weledig y mae swyddogion eglwysig. Ac yr wyf fi yn meddwl mai dwy swydd sydd i fod yn yr eglwys: henuriaid neu esgobion, a diaconiaid. Ac nid yw eglwys yn gyflawn a pherffaith, yn ol y Testament Newydd, heb fod ynddi y ddwy swydd. Mae y fath beth yn y byd ag amlhau swyddau eglwysig, fel y mae y Pabyddion wedi amlhau y sacramentau. Yn yr Eglwys Wladol gynt, yr oedd overseer y tlodion, a'r warden, yn myned a swydd y diacon; ac wrth ddyrchafu un yn esgob i fod yn fugail y bugeiliaid, mae hyny yn pwyso ar swydd y Pen mawr ei hun, bugail ac esgob ein heneidiau. Yn yr eglwys dan yr hen oruchwyliaeth, yr oedd archoffeiriaid, offeiriaid, a Lefiaid; yr oedd llawer o offeiriaid a Lefiaid, ond dim ond un archoffeiriad. Ond fe ddaeth yr Arglwydd Iesu i fod yn ddiwedd diddymol ar lawer o bethau yr oruchwyliaeth hono. Efe yn awr yw yr unig Archoffeiriad ar dŷ Dduw; a digon i ni yw" fod genym y fath Archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfaingc y Mawredd yn y nefoedd, yn Weinidog y gysegrfa a'r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn.". Gadawn ei le iddo; ymostyngwn iddo yn ei uchel swydd; cydnabyddwn ef yn Ben, ac ef yn unig. Mae yr eglwys weledig, wrth fyned ar llawer o seremonïau, a gosod rhyw lawer o swyddau, yn myned yn gyffelyb i ddyn tew, cnodig iawn, yr hwn y mae yn anhawdd i chwi feddwl ymron fod enaid ynddo, gan fel y mae cymaint o gnawd yn ei orchfygu. Anhawdd cael hyd i'r eglwys ddirgeledig pan y mae y weledig wedi tewychu a phwyntio gan ddefodau a threfniadau cnawdol.

Mae o bwys fod eglwys weledig yn y byd, ac y mae eisieu i ddyn fod yn perthyn iddi; ond bydded ein gofal penaf am fod yn aelodau o'r un ddirgeledig. Ond heblaw nodi fod yr eglwys yn weledig a dirgeledig, gallwn sylwi eto,

II. MAE YR EGLWYS, AR RYW OLYGIAD, YN EGLWYS FILWRIAETHUS.

Mae pob Cristion yn filwr; rhaid iddo fyned i'r rhyfel ysprydol, a gwisgo arfogaeth ysprydol tuag at hyny. Fel hyn y dywed Paul yn ei epistol at yr Ephesiaid: "Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysprydol yn y nefolion leoedd. Am hyny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pob peth, scfyll. Sefwch, gan hyny, wedi amgylch—wregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfroneg cyfiawnder; a gwisgo am eich traed esgidiau