Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

parotoad efengyl tangnefedd: uwchlaw pob dim, wedi cymeryd tarian y ffydd, â'r hon y gallwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw gan weddio bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Yspryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara." Nid milwriaeth mewn enw ydyw, ni a welwn; ond y mae yma fyddin ofnadwy iawn i ymladd â hi. Rhaid i eglwys Dduw wynebu y diafol a'i luoedd, a byd a'i ddrygau. Nid oes fodd i Gristion beidio cael ei demtio; nid ei fai ef yw hyny; ond ymollwng gyda'r demtasiwn yw y drwg. Yn wyneb "tywyllwch y byd hwn," mae yr eglwys i fod yn "oleuni y byd." Mae ychydig o eglwys bur, dduwiol, a ffyddlawn wedi anfon, lawer gwaith, oleuni mawr trwy wledydd tywyll iawn. Y rhai sydd yn ymdrechwyr ffyddlawn yma a goronir eto ar ol hyn. Wedi ofni yn fynych yn y rhyfel, ceir eto lawenychu wrth ranu yr yspail.