Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arferai fyned i ymweled â'r cleifion ac â'r rhai profedigaethus. Gallai ddyweyd ar hyn fel y gŵr o wlad Us, "Y cwŷn ni wyddwn a chwiliwn allan;" a gwnaeth i galonau llawer o wragedd gweddwon lawenychu. Ysgafnhaodd eu bronau lawer gwaith trwy ei ddull teimladwy yn gofyn sut y byddent, pan y cyfarfyddai â hwynt ar y ffordd. "Sut yr ydych chwi, hon a hon bach, a'ch twr plant?" Nid fel gweinidog Methodistaidd yn chwilio am Fethodistiaid y gymydogaeth y byddai efe, ond fel cymydog yn chwilio am gymydogion: a byddai ganddo air yn ei enau i'w cysuro, a cherdod yn ei law tuag at ddiwallu angen y rhai anghenus o honynt.

Gwnaeth Mr. Humphreys gais at ei gyd-ffermwyr, ar ryw auaf caled, i geisio ganddynt ffurfio math o gymdeithas tuag at gynorthwyo tlodion y gymydogaeth; ond deallodd yn fuan nad oedd modd cael digon o gyd-weithwyr i wneyd dim yn effeithiol. Wedi methu yn yr amcan clodwiw, penderfynodd ef a Mrs. Humphreys y gwnaent eu goreu i'w helpu trwy y tymmor caled hwnw. Gwahoddent y rhai mwyaf anghenus o honynt i'r Faeldref, a chyfranent yn helaeth iddynt. Gofynai ei was iddo wrth edrych ar un henafgwr yn gwegian dan y baich oedd efe wedi ei osod ar ei ysgwyddau, fel yr oedd yn myned oddiwrth y tŷ, "Tybed y gall o ei gario adref, meistr?" "Gad iddo fo, Robert," ebai yntau, "yr wyf fi yn leicio peth fel yna;" ac ychwanegai, "Na ollwng ef ymaith yn waglaw; gan lwytho, llwytha ef."

Cymerwyd tenant iddo yn sal, a bu am amser maith yn methu dilyn ei alwedigaeth. Byddai Mr. a Mrs. Humphreys yn ymweled ag ef yn aml, ac yn danfon rhywbeth. iddo yn feunyddiol; ac wedi iddo ddechreu gwella, a myned o gwmpas, gwahoddwyd ef i'r Faeldref. Wedi iddo fyned yno, gofynai Humphreys, "Sut y mae hi rhyngot ti a'r Doctor, R. O.?"

"Nis gwn," meddai yntau, "dyna y bill wyf fi yn ei ofni yn fawr."

"Wel galw am dano, ni bydd iddo fyned yn fwy felly, a gad i mi ei weled," ebai ei landlord.

Gwnaeth yntau felly, a galwodd drachefn, a gofynodd Humphreys, "A ydyw y bill genyt? gad i mi ei weled." Estynwyd ef iddo, ac er ei fod yn amryw bunnoedd, dywedodd wrtho, "Gad hwn i mi, mae yn arw i mi adael i ti