Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymladd â'r byd â dy faich ar dy gefn." Ni chlywodd R. O. air o son am y bill byth mwy.

Yr oedd Mr. Humphreys yn dyner wrth bawb ond tramps. Pan yr elai rhai o honynt hwy at ei ddrws, y peth cyntaf a wnai fyddai dyweyd, "Wel aros di, hen frawd, gad i mi weled dy ddwylaw;" ac os na byddai ôl gweithio arnynt, byddai yn rhaid iddo fyned ymaith yn waglaw, os na byddai yn cael lle cryf i feddwl y byddai arno eisieu bwyd.

Nis gallai edrych ar neb yn ymboeni gyda dim heb roddi help iddo, os gallai. Digwyddodd iddo, pan yn myned i'w gyhoeddiad, un dydd Sadwrn, ddod o hyd i ryw saer coed, a chanddo faich bren trwm, ac wedi cyddeithio ychydig dywedai, "Gadewch i mi gario eich baich am ychydig,"

"Na, nid felly," ebai yntau, "nis gallaf feddwl i ŵr o'ch urddas chwi gario fy maich i."

"Wel na," atebai yntau," rhaid i mi ei gael—' Dygwch feichiau eich gilydd' ydyw y gorchymyn." Yna cymerodd y darn pren ar ei ysgwydd gref. Teimlai ei gydymaith ei hunan yn myned yn llawer ysgafnach heb yr ysgwyddaid pren, a gadawodd ef ar yr hwyaf i Mr. Humphreys. Cyn hir dechreuodd yntau ymdeimlo â'i bwysau, a thrwy nad oedd ei gyfaill yn son am ei gymeryd yn ol, dywedodd Mr. Humphreys, " Wel, o hyn allan, bydded i bob un ei faich ei hun;" ac yna aeth i'w ffordd.

Yr oedd tynerwch ei fynwes yn myned weithiau ar y ffordd iddo weithio allan benderfyniadau ei feddwl. Gwnaeth benderfyniad un tymor na byddai iddo werthu dim o gynyrch y fferm ond am arian parod, a mynegodd y ddeddf i'w was, fel na byddai i hwnw werthu dim yn ei absenoldeb. Ond cyn machlud haul yr un dydd ag y mynegwyd y cynllun hwn, fe ddaeth dau gymydog iddo, ac aelodau o'r eglwys yr oedd efe yn weinidog arni, i ofyn am bytatws ar werth. Gofynai yntau a oedd ganddynt arian. "Nac oes, dan yr amser a'r amser," ebent hwythau. Ar hyn fe aeth yn wrthdarawiad rhwng tynerwch ei galon a phenderfyniad ei feddwl; a bu dystawrwydd tra yr oedd yr ymrysonfa yn cymeryd lle yn ei feddwl. Yn y man dywedai, "Os nad allaf werthu pytatws i chwi, heb dori fy ngair, gallaf roddi cynghor i chwi, Ewch at Ann (sef Mrs. Humphreys) a gofynwch