Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei chael yn helaeth. A mwy eto, "Y mae yn dychwel ei enaid, ac yn ei arwain ar hyd lwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw." Y mae yn son am leoedd enbyd, "Glyn cysgod angau," ond nid ofnai niwed. Yr oedd y cwbl yn oleu o'i flaen; ac yntau wedi ei godi uwchlaw ei elynion. Fel hyn y mae yn terfynu, "Daioni a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant holl ddyddiau fy mywyd." A dyma ei benderfyniad,—" Preswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd." Wel, beth feddyliech chwi am gael yr Arglwydd yn Fugail i chwi? Y mae yma rai yn hen; y mae efe yn dyweyd, "Hyd henaint hefyd myfi yw, ïe, myfi a'ch dygaf hyd oni phenwynoch." Y mae glyn cysgod angau o'n blaen, ac y mae yn rhaid i ni fyned trwyddo bob yn un ac un, gofelwch am y Bugail hwn yn arweinydd, ac ond i ni allu dyweyd" Yr wyt ti gyda mi," ni bydd raid i ninau "ofni niwed."

Wrth derfynu hanes Mr. Humphreys a'i gymydogion gellir dyweyd ei fod wedi cario yr un arferion yn mlaen wedi symud i gymydogaeth Pennal. Byddai yn rhoddi cyfran benodol bob wythnos i ymweled a'r cleifion a'r teuluoedd profedigaethus, a pharhaodd i wneyd hyny, hyd nes y lluddiwyd iddo gan lesgedd i barhau. Ni chafodd ond tymhor byr i droi yn mysg ei gymydogion newydd, ond gadawodd argraff ddofn ar eu meddyliau, ac y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig ganddynt oll.

Ysgrifenodd dair o ysgrifeniadau byrion i'r Methodist o hanes ei henafiaid yn y Dyffryn, a chan eu bod mor ddifyrus i'w darllen ac mor llawn o addysgiadau ni a'u dodwn hwynt i mewn yma. Testynau yr ysgrifeniadau ydynt, "Enwogion Dyffryn Ardudwy yn Nyddiau Cromwell—Cynt a Chwedi," "Modryb Lowri," "Gwers ar ryddid, ac anrhydedd, o'r oes ddiweddaf i hon."

ENWOGION DYFFRYN ARDUDWY YN NYDDIAU CROMWELL—CYNT A CHWEDI.

YN gymwys ddau can' mlynedd yn ol, yr oedd yn byw yn Uwch-law'r-coed, yn mhlwyf Llanenddwyn, yn Nyffryn Ardudwy, un Colonel Jones, yr hwn oedd yn perthyn i fyddin Oliver Cromwell; yr oedran ar un o'r trawstiau sydd mewn rhan a chwanegwyd at yr hen anedd ydyw 1654. Gellid meddwl fod yr hen adail wedi ei rhoddi ar ei gilydd er dyddiau y Frenines Elizabeth. Mae yn y darn newydd swyddfa fechan o ffawydd y Baltic, lled gryno, a gwneuthuriad llwyr arni, yn yr hon y byddai y Colonel yn ysgrifenu ac yn cadw ei gyfrifon. Dywedir ei fod yn gryf dros werinlywodraeth, ac felly yn wrthwynebwr i Charles yr ail. Y mae beddadail yn mynwent Llanenddwyn wedi ei gwneuthur iddo, ac arni yr argraff hon, E. I. 1665. Dywed traddodiad mai mewn ymddangosiad y claddwyd ef ac nid mewn gwirionedd, i ddallu llygaid y llywodraeth. Dywedir mai o'r