Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Iwerddon y daeth y corff marw, gan nad pwy ydoedd. Yr oedd hefyd yn cydoesi âg ef un Griffith Prys Pugh, yr hwn oedd etifedd y Benar Fawr, yn yr un ardal. Yn ol pob hanes a ddisgynodd am dano, gellir casglu ei fod yn un o wŷr ceffylau Cromwell—un o'r ironsides. Cof yw gan ysgrifenydd y llinellau hyn glywed ei fam yn son am yr ymladdfeydd y bu ynddynt. Yr oedd hi mor agos perthynas a neb oedd yn fyw i'r etifedd diweddaf, Griffith Pugh, yr hwn oedd yn ŵyr i'r hen filwr. Nid oes braidd rith o amheuaeth nad i fyddin Cromwell yr oedd Griffith Prys Pugh yn perthyn, canys y mae yn hysbys, drwy draddodiad, ei fod yn wrthwynebwr i deulu Corsygedol, y rhai oeddynt yn bleidwyr gwresog i'r ddau Charles. Bu Charles yr ail, pan yn ffoadur, yn lletya yno noson: y mae y gwely a'r ystafell lle y bu yn cysgu yn cael eu cadw fel pe byddent gysegredig, i'w dangos i'r cywrain, hyd heddyw. Dangosai yr hen Fychan, Corsygedol, ei fwriad i gau darn anferth o'r mynydd at ei dir; ond safodd yr hen filwr yn wrol yn ei erbyn, gan fyned a'i drosol ar ei ysgwydd at Gorsygedol (yr oedd y ffordd i'r mynydd yn arwain heibio yno), a thröai i'r gegin i danio ei bibell, gan adael ei drosol ar wâl y cwrt, ac yna i fyny ag ef i'r mynydd, a chwalai y clawdd newydd bron at ei sylfaen, ac wedi hyny adref ag ef y ffordd y daethai, ac felly ni chauwyd mo'r ffridd tra y bu yr hen filwr byw. Pan fu farw Griffith Prys Pugh, aeth rhyw un yn llawn llythyr at Mr. Fychan, i ddyweyd fod ei wrthwynebwr, etifedd y Benar Fawr, wedi marw. "Wel," ebe yntau, "fe fu farw gŵr, ond nid ydwyt ti ond ffwl." Fel y mae yn hysbys, yn fuan wedi marw Cromwell, chwalwyd ei fyddin, ac aeth yr ironsides bob un, neu o leiaf aeth y rhan fwyaf, i'w treftadaethau, oblegyd mân-uchelwyr oeddynt gan mwyaf—yr oedd llawer ychwaneg o'r dosparth hwn y pryd hyny nag sydd yn awr. Y mae perchenogion etifeddiaethau mawrion wedi llyncu y mân-uchelwyr, ac nis gwyr odid neb erbyn hyn fyned o honynt i'w boliau hwynt. Yn mhen enyd wedi i hen filwr Benar Fawr a'i farch ddychwelyd adref, anrhegodd gymydog tylawd a'i ddillad milwrol; wrth ba rai y gallai y cyfarwydd wybod mai dillad milwr Cromwell oeddynt. Goddiweddwyd yr hen frawd hwnw ryw ddiwrnod ar y brif-ffordd gan ddau o foneddigion ieuaingc, y rhai, wrth weled y dillad oedd am yr hen ŵr, a dybiasant mai efe oedd y milwr, a buont yn dra dirmygus o hono, gan roddi pob enwau gwaeth na'i gilydd arno. Parodd hyn i'r hen ŵr chwerwi yn ddirfawr wrth y ddau; aeth ar eu hol, a deallodd eu bod wedi troi i westdŷ Llanddwywe, yr hwn nad oedd neppell oddiwrth Benar Fawr, i gael bwyd a diod iddynt eu hunain a'u meirch; aeth yntau i'r Benar, ac adroddodd yr hanes i'r hen filwr, ac er gyru y cwch i'r dŵr yn ddigon effeithiol dywedai wrtho, "Y mae yn sicr eu bod hwy yn meddwl mai chwi oeddwn i; pe bawn i yn eich lle chwi mi dalwn i'w hesgyrn, oblegyd chwi ellwch guro y ddau, gan eich bod chwi a'ch ceffyl mor gyfarwydd âg ymladd. Ar hyn, dyma waed yr hen Gymro yn dechreu twymno; cyfrwyodd ei farch, ac wedi cymeryd gwialenffon gref yn ei law, ymaith ag ef; ond erbyn cyrhaedd y dafarn, cafodd fod y ddau foneddwr wedi cychwyn i'w taith tua Glyn Cywarch, i ymweled â rhai o'r hil dêg oedd y pryd hyny yn byw yno. Aeth yr hen filwr nerth ei garnau ar eu hol, ac yn mhen o gylch pum