Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

milldir goddiweddodd hwynt yn Morfa Harlech, ac heb seremoni dechreuodd eu cystwyo yn ddiarbed. Gwnaethant hwythau eu goreu i'w hamddiffyn eu hunain, ond nid oedd dim yn tycio, yr oedd yr hen filwr yn eu mesur yn ddiarbed y naill ar ol y llall, ac nis gallasent hwy braidd gyffwrdd âg ef. Gwaeddai un o'r ddau arno a dywedai, "A wyddoch chwi pwy ydw' i?" "Na wn i," ebai yntau, "ac nis gwaeth genyf." "Mr. Fychan o Gaethle." "Fe allai," ebai yntau, "ni bu hi erioed gaethach arnat ti." Dechreuodd y ddau waeddi murdwr dros yr holl gymydogaeth; daeth hyny a hen wraig allan o'i thŷ, a phigfforch yn ei llaw, a thyngodd y mawr lŵ hyllaf y rhoddai hi y bigfforch drwyddo os na pheidiai a lladd y bobl; ar hyn gadawodd y milwr iddynt fyned, canys ni oddefai ei anrhydedd iddo ymladd â hen wraig. Dywedir i'r hen wraig hon fod mewn ffafr gyda'r milwr tra y buont byw. Efallai iddi hi fod yn foddion i'w atal, rhag gwneuthur mewn awr ddrwg yr hyn ni fynasai ei wneyd mewn oriau gwell. Ni welwn yma

1. Lewder ac annibyniaeth milwyr Cromwell; ni bu dynion erioed yn gwisgo arfau marwolaeth oddiar egwyddorion uwch; sef, er amddiffyn rhyddid crefyddol eu gwlad, yn erbyn gormes Charles yr Ail, yn wladol ac yn eglwysig.

2. Gwelwn yn nrych yr hanesyn hwn boethed oedd y rhagfarn yn eu herbyn yn mynwesau y mawrion, a hyny bellach yn dyfod allan yn dra rhwydd; canys yr oedd Cromwell wedi gorphwys oddiwrth ei lafur. Fel hyn yr arfer plant dynion dalu i'w cymwynaswyr goreu.

3. Gwelwn wired yr hen ddiareb, "Yn mhob gwlad y megir glew." Nid ydyw Dyffryn Ardudwy ond llanerch lled anhygyrch, eto wele ddau filwr dewr wedi dyfod oddiyno i fyddin anorchfygol ironsides Cromwell. Yn ystlys ogledd-ddwyreiniol y Dyffryn, y ganwyd Edmwnd Prys, awdwr y Salmau Cân; yn ei ystlys ddeheuol y ganwyd William Phillip, yr hwn oedd fardd campus yn ei ddydd. Y mae pawb sydd yn gwybod dim am feirdd a barddoni yn gwybod mai y prif-fardd oedd yr archddiacon; ond y mae William Phillip yn llawer llai hysbys. Ganwyd ef yn agos i Dalybont yn mhlwyf Llanddwywe. Ei dad oedd oedranus pan ganed ef, a thybiai rhai y gellid ei

"Dadu yn fwy godidog."

Pa fodd bynag am hyny, gan nad ydym yn duo enw neb, ni adawn y traddodiad i farw. Phillip William oedd ei dad cyfrifol, gan nad pwy oedd ei dad naturiol. Trodd y bachgen allan yn fardd, er nad cystled a'r archddiacon, eto llawer gwell na'r cyffredin. Dywed traddodiad ei fod yn wrthwynebwr calonog i lywodraeth Cromwell,—yr oedd yn Llanwr cydwybodol,—deallai mai Ymneillduwr oedd Cromwell, a dichon mai hyn oedd yr achos o'i fod mor annghymeradwy o hono. Anfonwyd swyddogion unwaith i'w ddal; nid oeddynt yn ei adwaen; cyfarfuant âg ef heb fod neppell oddiwrth y tŷ, mewn gwisg tra chyffredin, a gofynasant iddo a oedd William Phillip gartref? "Yr oedd yn y tŷ pan oeddwn i yno," ebai yntau; ac aeth pawb i'w fan. Yr oedd yn dipyn o ddaroganwr, a dywedai

"Daw brenin braf i'n bro;
Ond ust William nes delo."