Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn ei osod yn wawd i ynfydion. Ond am Modryb Lowri, ni chwarddodd neb erioed, hyd yn nod yn ei lewis, am ei phen hi; gwyddai pawb ei bod hi yn llawn llathen, ac yn un ŵns ar bymtheg trwm trwm i'r pwys. Gorfyddai i'r athrodwr a'r enllibwr gymeryd rhyw un arall yn destyn.

Ond fel nad ymddangoswn fel yn curo awyr, rhoddwn ger bron y darllenydd yr enghraifft hon o gallineb Modryb Lowri. Byddem yn yr arfer o ymweled â'r hen fam yn awr ac eilwaith. Tua blwyddyn, neu beth yn ychwaneg, cyn marw fy Modryb Lowri, ymwelsom â hi, ac wedi pasio y cyfarchiadau cyffredin, gofynasom, "Beth debygech chwi am y byd? y mae yn dda gen i gael eich barn am dano, oblegyd yr ydych yn cofio llawer am ei arferion er's pedwar ugain a deg o flynyddoedd. Y mae rhai yn taeru yn wyneb uchel ei fod yn waeth waeth er yr holl bregethu a chadw Ysgolion Sabbathol a phob moddion i'w wellhau. Ond pa beth, dybygech chwi, am hyn, canys yr ydych yn dyst llygad o'r hyn sydd, ac o'r hyn a fu?"

"Nis gwn yn iawn pa fodd i'ch hateb," meddai, "ond os da yr wy'i yn cofio, drwg iawn oedd y byd y pryd hwnw, sef pan oeddwn i yn enethig fechan. Nosweithiau llawen, canu efo'r tannau,

"Yr interlude aelodog
A'r cardiau dauwynebog,'

y twmpath chware, a chware tenis tô. Fel hyn y byddai yr ieuengctyd, a'r hen yn eistedd i edrych arnynt. Diwrnod canu a dawnsio oedd y Sul, pan gyntaf yr wyf fi yn ei gofio. Ac heblaw hyn, yr oedd pawb yr un fath: fel y dywed yr hen air, 'Nid oeddym oll ond moch o'r un wâl,' neu

'Adar o'r un lliw,
Yn hedeg i'r un lle.'

Nid oedd un cyfiawn i ragori ar ei gymydog."

"Ond, Modryb Lowri, beth meddwch chwi am 'stâd bresenol y byd, pa un ai gwell ai gwaeth na chynt?"

"Yn siwr, rhaid cyfaddef fod llawer o wylltineb ac afreolaeth ynddo eto, yn nghyda rhagfarn, llid, a chenfigen; ond y mae rhyw ddau fath o bobl yn ymddangos i mi yn bresenol, rhai yn ymdrechu i wellhau y byd ac i gadw ei ddrwg arferion i lawr. Y mae y 'rwan dda a drwg i'w gweled. Nid oedd pan oeddwn i yn ieuangc ond drwg a gwaeth. Y mae bechgyn a genethod yn cael llawer o fanteision yn y dyddiau hyn ragor a geid gynt yn more fy oes i. Nid oedd y pryd hwnw nemawr ddim i atal llygredigaeth ond tylodi, cosbi lladron, a chrogi llofruddion."

Yn awr, ddarllenydd, beth ddywedi di am dystiolaeth Modryb Lowri? Nid oedd hi yn proffesu crefydd gyda'r un o'r sectau fel ei gelwir. Tybiaf y byddai yn cymuno yn y Llan, cyhyd âg y gallodd godi o'i chongl. Gwrandawodd lawer ar bregethu Crist gyda'r Methodistiaid, a darllenodd lawer ar ei Beibl, a chlywsom y byddai yn gweddio yn fynych. Ond methodd rhagfarn a'i dallu fel y rhan fwyaf o'i chydoeswyr. Yr oedd synwyr cyffredin yn fur iddi ar bob llaw, yr hwn hefyd a ddysgai iddi rodio canol llwybr barn. O mor werthfawr yw synwyr cyffredin i bawb a'i medd.