Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid yw synwyr cyffredin wedi ei ddarpar i gredu pob peth a glyw. Profa bob peth, a deil yr hyn sydd dda—yr hyn sydd resymol. Y mae synwyr cyffredin yn dysgu i bawb bwyso penau yn hytrach na'u cyfrif, gan farnu pethau wrth eu heffeithiau, a dwys ystyried eu holl ganlyniadau. Y mae yn ddigon a gwneyd i'r llygod chwerthin yn nhyllau yn y muriau wrth weled y mân 'ffeiriadon yn troi y gath yn yr haul i'r werin a'r cyffredin, gan hòni olyniad apostolaidd iddynt eu hunain, a bedydd adenedigaeth, yr hyn a ellir ei effeithio yn unig trwy eu dwylaw hwy: ond y mae synwyr cyffredin yn mhawb a'i medd yn dywedyd, gyda dirmyg, "Diau mai chwi sydd bobl, a chyda chwi y bydd marw doethineb."

Nid yw holl rasau y Cristion ddim amgen na synwyr wedi ei sancteiddio gan yr hwn a anadlodd yn ein ffroenau anadl einioes naturiol, yr hwn hefyd a ddichon anadlu bywyd o ras i'n galluoedd rhesymol; ac os gras, gogoniant hefyd.

Gwel darllenydd mor werthfawr yw mamau campus. Nid oedd ar brïod Modryb Lowri, hyd y gwyddys, na champ na rhemp. Modd bynag, mi debygwn, nad oedd ei bwysau yn dyfod yn agos i bwysau Modryb Lowri. Ond y mae ei hol hi ar ei theulu hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth: y maent yn gryfach, yn iachach, yn harddach, ac yn gallach na chyffredin, ac eto nis gwn a gyrhaeddodd un o honynt fesur a phwysau Modryb Lowri. [1]

GWERS AR RYDDID AC ANRHYDEDD O'R OES DDIWEDDAF I HON.

FE ddywed diareb mai "Pa hwyaf y bydd dyn byw, mai mwyaf wêl, a mwyaf glyw." Daeth i'm clustiau inau yn ddiweddar ryw hanesyn am beth a ddygwyddodd tua phedwar ugain mlynedd yn ol, ac am ei fod yn cynwys gwersi buddiol i'r oes hon gosodaf ef ger bron y darllenydd. Daeth un Griffydd Evan o Uwchglan at Mr. Evan Fychan o Gorsygedol, ac a ddywedodd wrtho, "Y mae eich tenant sydd yn Mhenycerig (y ddau le gerllaw Harlech) wedi myned at y Methodus, ac nid oes dim daioni i'w ddysgwyl oddiwrtho mwyach; hwy a'i gwnaent cyn dyloted a llygoden eglwys, a pha beth a wna â thir nac â dim arall? Ceir gweled yn fuan na ddaw o hono, fel y dywedais, ond anhwylusdod." "Y mae yn ddrwg genyf glywed," ebai Mr. Fychan, "yr oedd Harri yn burion tenant." "Oedd o'r goreu," ebai Griffydd Evan, " ond y mae y cwbl drosodd er pan yr ymunodd â'r bobl yna, oblegyd ni wna bellach ddim ond crwydro a gwario ei arian; a chan na wna efe ddim â'i dyddyn, buaswn yn ddiolchgar am eich ewyllys da os gosodwch Benycerig i mi." "Wel," ebai Mr. Fychain, "nid hwyrach y gelli di ei gael, ond ni osodaf mohono i ti heddyw—caf weled Harri cyn bo hir, a chaf wybod pa fodd y mae pethau yn sefyll." Cyn hir anfonodd y gŵr boneddig at Harri i ddyweyd fod

  1. O'r" Methodist," Mawrth, 1856.