Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

MR. HUMPHREYS A DIRWEST.

CYFIAWNDER â choffadwriaeth Mr. Humphreys ydyw gosod ei enw yn un o'r rhai blaenaf ar list cedyrn dirwest yn Nghymru. Yr oedd wedi arfer a byw o'i ieuengetyd uwchlaw gwasanaethu chwantau, nac unrhyw flysiau. Dywedodd gwraig gyfrifol wrthym ei bod yn cofio Mr. Humphreys yn galw yn eu tŷ hwy, pan nad oedd ond dyn lled ieuangc, ac iddynt hwythau, yn ol arfer y dyddiau hyny, estyn gwydriad o win ato, ac iddo yntau wrthod ei gymeryd. "Cymerwch ef, fe wna les i chwi," meddent hwythau. Ond atebodd yn gryf a phenderfynol, "Nis cymeraf ef; nid am nad allwn ei yfed, ond nis gwnaf rhag ofn i mi fyn'd yn fond o hono." Yr oedd hyn flynyddoedd cyn bod dirwest yn y ffurf o gymdeithas. Pan sefydlwyd y Gymdeithas Ddirwestol, daeth Mr. Humphreys allan ar unwaith yn bleidiwr gwresog iddi, a pharhaodd i'w phleidio hyd ddiwedd ei oes. Wrth edrych dros yr hen Ddirwestydd, a misolion eraill lle y cawn hanes Cymanfaoedd a Gwyliau Dirwestol, y mae enw y Parch. Richard Humphreys o'r Dyffryn, i'w ganfod mor aml ag enw neb o hen amddiffynwyr yr achos hwn. Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd Cymru i areithio ar ddirwest, a byddai ei ymweliadau yn dra llwyddianus bob amser. Digwyddodd iddo, pan ar daith yn Llandeilo-fawr, gyda chyfaill ieuangc o'i gymydogaeth, fyned i wrthdarawiad yn nhŷ'r Capel a hen ŵr, oedd eto heb ei enill i'r ffydd ddirwestol, a elwid gan y cymydogion yr "hen brophwyd." Dadleuai yr hen frawd yn wresog dros ragoriaeth y ddiod gref; ac wrth ei glywed yn siarad mor uchel o'i phlaid, dywedodd Mr. Humphreys, "Ni fynwn i er deg punt feddwl yr un fath a chwi, hen frawd, am dani." Na fynech mi wn," atebai yntau, "a chwithau yn meddwl gwneyd can' punt wrth ddyweyd yn ei herbyn." Ar hyn chwarddodd Mr. Humphreys yn galonog wrth glywed