Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

syniad masnachol yr "hen brophwyd," a rhoddodd haner coron iddo am ei atebiad parod.

Byddai Mr. Humphreys hefyd yn cael ei alw i ddadleu hawliau yr achos dirwestol yn y Cymanfaoedd Chwarterol a'r Cyfarfodydd Misol; a mynych y gofynid iddo ddyweyd gair, cyn neu wedi pregethu, yn y gwahanol deithiau Sabbathol y byddai yn myned iddynt. Ac nid yw yn anhawdd rhoddi rheswm am hyn. Yn un peth, gwyddai pawb y byddai Mr. Humphreys yn barod ar rybydd byr, neu heb rybydd o gwbl, i siarad ar yr achos. Hefyd, gwyddid, er ei fod yn ddirwestwr da, nad oedd yn ddirwestwr penboeth, ac am hyny nad oedd perygl iddo archolli teimladau neb o'i wrandawyr. Yr oedd yn dysgu trwy "fwyneidddra doethineb," ac felly yn gallu myned rhwng dynion a'u harferion pechadurus heb friwio eu teimladau. Rheswm arall ydoedd, fod ganddo gyflawnder o chwedleuon difyrus i egluro a chadarnhau ei osodiadau, fel ag y byddai pawb wrth eu bodd tra y byddai efe yn llefaru; ac er na lwyddodd i gael pawb fu yn gwrando arno oddiwrth eu harferion ffol, ni byddai un amser yn methu enill eu barn a'u cydwybod, a theimlent mai synwyr ynddynt fuasai gadael eu harferion drygionus.

Yr ydym wedi derbyn lluaws mawr o sylwadau a draddodwyd ganddo o bryd i bryd, ac ni a ddodwn amryw o honynt i lawr, fel y gallo y darllenydd weled o ba gyfeiriadau y byddai y doethawr o'r Dyffryn yn edrych ar waith dynion yn ymwneyd â'r diodydd meddwol. Dywedai y diweddar Barch. John Jones, Tremadog, yn un o Gymdeithasfaoedd Pwllhelli, "Ein harferiad er's blynyddoedd bellach ydyw cael rhyw frodyr i ddyweyd gair ar ddirwest ar yr adeg hon (sef ar ol pregethau y prydnawn cyntaf), ac nid ydym wedi annghofio dirwest eleni; ac yr ydym wedi meddwl i frodyr ddyweyd am ugain mynyd bob un, a chan fod yr amser eisoes wedi rhedeg yn mhell, y mae arnom eisieu i'ch anerch rai a fedr fyned at y pwnc heb fawr o ragymadrodd; ac i'r pwrpas yna," meddai, ar dop ei lais clir," yr ydym yn galw ar Mr. Richard Humphreys o'r Dyffryn." Gyda fod y gair olaf dros wefusau Mr. John Jones, yr oedd Mr. Humphreys ar ei draed yn tynu ei het yn dyfod ymlaen a het fawr yn ei law—yn ei gosod o'i flaen, ac meddai

"Wel heb ragymadrodd ynte. Yr wyf fi yn ddirwetwr