Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bellach, er's saith mlynedd, ac ni bu yn edifar genyf am saith mynyd. Mi ymbriodais i â'r Gymdeithas Ddirwestol ar y cyntaf, fel y darfu i mi a'r wraig acw; mi gymerais y naill a'r llall er gwell ac er gwaeth, er tlotach ac er cyfoethocach.' Ond erbyn i mi weled, nid oedd gwaeth o honi hi gyda'r naill mwy na'r llall. Ac wrth weled peth mor dda ydyw dirwest, yr wyf fi bellach wedi ei dyweddio hi â mi fy hun yn dragywydd, mewn cyfiawnder, mewn barn, ac mewn ffyddlondeb.' Ac mi rown i gynghor i chwithau i wneyd yr un fath a mi, yn hyn, beth bynag. A hyny yn un peth, trwy i chwi ddyfod yn ddirwestwyr, chwi fyddwch ar dir safe rhag cael eich niweidio gan y diodydd meddwol. Peth pwysig iawn i ddyn ydyw bod yn safe, ac y mae perygl yn ddigon siwr i chwi, hyd yn nod oddiwrth arferion cymedrol o honynt. Mae y rhai sydd yn arfer llawer â hi yn teimlo fod ynddi berygl. Yr oedd yn ein cymydogaeth ni acw un ag oedd yn bur ffond o yfed y diodydd meddwol; byddem yn arfer ei alw F'ewythr Hugh Rhisiard Evan. Un tro yr oedd wedi bod yn yfed trwy y dydd, ac wedi iddi fyned yn nos, cymhellwyd myned i'w ddanfon adref; ond ni fynai arweinydd ar gyfrif yn y byd. Yr oedd y rhan gyntaf o'r ffordd yn un go dda, ond yr oedd gallt serth yn niwedd y daith. Pan ddaeth i waelod yr allt fe deimlodd nad oedd yn ddigon safe: a dyma lle yr oedd yn ceisio sadio ei hun, gan ddweyd wrtho ei hunan, Wel voyage,. i'r allt yrwan.' Wedi un ac ail gynyg, a dyweyd wrtho ei hunan o hyd, Wel voyage i'r allt yrwan,' dyna fo yn cychwyn, a thros y llwybr, ac i lawr a fo; ond cyn iddo rowlio i'r. afon, yr oedd rhywun wedi bod yno er's blynyddoedd yn planu onen, (ond nid ar ei gyfer ef bid siwr) a'r gwlaw: wedi ei maethu, ac erbyn hyn yr oedd yn bren mawr, yr hon a'i daliodd ef yn safe. Oni buasai am dani hi, buasai wedi roulio i'r afon a boddi yn ddigon tebyg. Ydych chwi yn gweled, fy mhobl i, nad oedd ganddo ef ei hunan yr un syniad ei fod yn safe, wrth gychwyn i'r allt, pan oedd yn pryderu cymaint am y voyage i'r allt;' a chwaneg o lawer, nid oedd efe yn safe, o achos fe gwympodd dros y llwybr, ac nid dim byd ynddo ef, druan, a'i cadwodd rhag syrthio i'r afon a boddi. Yn wir, ni raid i mi ond eich adgofio chwithau, pobl dda Lleyn ac Eifionydd yma, y mae aml un o honoch chwithau wedi gwirio hyn lawer