Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

son i gwyno mai degwm bychan iawn oedd yn perthyn i'r plwyf hwnw. Pa faint ydyw?' gofynai y cyfaill. Nid yw ond hyn a hyn,' ebai y person. O, y mae hyny yn o lew, y mae genych gyda hyny dipyn i'w dderbyn oddiwrth briodi a chladdu,' atebai y cyfaill. Yn wir,' meddai yntau yn ol, nid oes yma neb byth yn priodi, ac ychydig iawn sydd yn marw yma hefyd: ni welsoch erioed lai.' Wel y mae hyn yn beth rhyfedd iawn; y mae marw yn mhobman; beth sy arnynt na farwent hwy yma?' ychwanegai y cyfaill. Ond yfed dŵr oddiar y clai glas (neu fel y gelwch chwi ef yn Lleyn yma, marl glas) y maent.' Yr oedd y gŵr parchedig wedi deall y rheswm. Ewch chwithau a gwnewch yr un modd." * * * *

Dywedai unwaith yn iaith y gwrth-ddirwestwr, "Y mae genych lawer o swn gyda 'Dirwest;' ond nid yw fawr o beth wedi y cyfan." "Nac ydyw, o ran hyny," atebai yntau, "ond y mae yn rhywbeth i ni y dirwestwyr yma, er hyny. Er's ychydig amser yn ol, aeth tŷ ar dan heb fod yn mhell, a digwyddodd fod yno deiliwr yn gweithio; aeth yn rhy boeth arno, a neidiodd i lawr o ben y bwrdd ac allan ag ef. Ar ol myned allan, tarawodd ei law ar ben ei glun a dywedai, Ni buaswn yn hitio llawer pe cawswn fy arfau allan.' Pa beth, tybed, oedd ganddo ar ol? Siawns nad oedd ei nodwydd yn ei lawes, a'i wnïadur ar ben ei fys, y scissors yn ei logell wrth gychwyn; odid nad oedd ei esgidiau wrth droed y bwrdd; am yr haiarn pressio ni buasai hwnw ddim gwaeth ond gadael iddo oeri, ond hwyrach i'r lap-wood fyned ar dân, ac er nad oedd hono o fawr werth, yr oedd yn rhywbeth i'r teiliwr."

Dywedai fod siawns dda gan ferched ieuaingc i enill dynion i fod yn ddirwestwyr. "Yr wyf fi yn siwr," meddai, "pe bai rhai o honoch chwi yn arfer meddwi, y dywedai y llangciau na fynent hwy yr un ddynes feddw yn fam i'w plant. Returniwch y compliment, a dywedwch yn benderfynol na fynwch chwithau yr un dyn meddw yn dad i'ch plant."

Arferai ddyweyd fod dyn wrth yfed yn iselhau ei hun yn fawr, ac nad ellid ymddiried i'w air pan o dan effeithiau y diodydd meddwol. Fel y llygoden hono oedd wedi syrthio i'r breci. Wedi iddi ddeall fod pob gobaith am dani wedi darfod, dywedai y lygoden wrth gath oedd yn sefyll yn ymyl y badell, "Os gwnei fy nghodi i fyny o'r fan hon, ti