Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'm cei." Estynodd y gath ei phawen a chododd hi i fyny. Yna dechreuodd chwareu â hi, fel y gwna cathod. Ond meddai y lygoden, "Gad i mi ymysgwyd dipyn, yr wyf yn wlyb iawn." Gollyngodd y gath hi, ac yr oedd hithau yn ymysgwyd ei goreu oddiwrth y breci, ac wrth ymysgwyd canfu dwll yn y pared, a neidiodd iddo. "Beth y gwnaethost fel yna?" gofynai y gath, "oni ddywedaist y cawn i di ond i mi dy godi o'r breci?" "Do, mi ddywedais," ebe y lygoden, ond yn fy niod yr oeddwn y pryd hwnw." Felly nid oes coel ar neb yn ei ddiod, mwy nag ar y lygoden yn y breci.

I ddangos fel y byddai y diodydd meddwol yn hurtio meddyliau eu hyfwyr, adroddai yr hanesyn canlynol: "Darllenais hanes am dair boneddiges wedi myned i ball yn Edinburgh, ac yfodd y tair yn rhy uchel. Wrth ddychwelyd adref ar hyd un o'r heolydd, ar ochr yr hon yr oedd eglwys a chlochdy uchel arni: gan fod y lleuad ar y pryd yn tywynu, yr oedd cysgod y clochdy ar draws yr heol, a dychrynwyd y boneddigesau yn fawr, gan iddynt dybied mai afon oedd yno. Dyna lle y bu y tair yn synfyfyrio ar y lan, ac yn methu gwybod beth a wnaent. Ond o'r diwedd, fe ddywedodd un o honynt, mi fentraf fi drwodd yn gyntaf.' Tynodd am ei thraed, ac aeth o gam i gam, gan ofni bob cam a roddai gael ei hunan dros ei phen. Ond o'r diwedd cafodd y lan, a dywedai, Thank God! Ac yna gwaeddai ar ei chyfeillesau, Come my friends, I am all safe. Onid oedd yn ddiraddiad mawr ar y boneddigesau hyn eu gweled yn tynu am eu traed i groesi cysgod y clochdy oedd yn gorwedd ar draws yr heol?"

Mewn atebiad i waith rhai yn dyweyd fod llawer yn gwneyd crefydd o ddirwest, dywedai, "Nid ydym yn dyweyd fod dirwest yn grefydd, ond dywedwn hyn am dani, y mae yn fantais fawr i grefydd; ac y mae y Duw mawr yn gadael i ni yspïo ein mantais; ac yr ydym yn arfer gwneyd hyny gyda phethau eraill. Ni welsoch chwi neb erioed yn gwneyd cais i fyned ar gefn ei geffyl yr ochr isaf iddo, ond cymer pawb fantais ar yr ochr uchaf iddo. Byddwch chwithau synwyrol, a chymerwch fantais ar ddirwest i fyw yn grefyddol."

Anogai y dirwestwyr rhag cymeryd eu hudo gan weniaith y tafarnwyr. "Cofiwch," meddai, "ddameg y llwynog a'r frân. Yr oedd y frân wedi d'od o hyd i gŷn