Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

thraul i'w grynhoi mor gyflawn ac mor deilwng ag oedd yn bosibl i mi. Fy esgusawd dros ei holl ddiffygion a'i anmherffeithderau ydyw hyn,—gwnaethum fy ngoreu; a chymmerais y gwaith arnaf mewn ufydd-dod i gais y rhan fwyaf o'm brodyr yn y weinidogaeth ag oeddynt yn bresennol yn angladd Mr. WILLIAMS, ac i'r brodyr hyny yn neillduol yr wyf yn cyflwyno fy nghydnabyddiaeth ddiolchus hon.

3. Yr wyf yn dymuno cyflwyno fy niolchgarwch hefyd i'r brodyr hyny a estynasant law garedig o gynnorthwy i'r gwaith, drwy anfon y llythyrau a ganfyddir yn argraffedig yn y Cofiant â'u henwau wrthynt. Y mae y rhai hyn yn cau i fynu lawer o adwyon a fuasent yn y gwaith, pe na buasai iddynt hwy fod mor gymmwynasgar. Teimla yr ysgrifenydd yn dra rhwymedig i'r beirdd hwythau am eu hanrhegion awenyddawl.

Yn ddiweddaf oll, yn gystal ag yn gyntaf a phenaf oll, yr wyf yn diolchgar gydnabod Awdwr a Ffynnonell pob daioni am estyniad oes ac iechyd i fyned drwy hyn o waith; a chyda y crybwyllion hyn, yr wyf yn awr, anwyl gyfeillion, yn ei ollwng fel y mae i'r argraffwasg, ac yn ei gyflwyno i'ch dwylaw a'ch sylw, dan obeithio, os na fydd iddo roddi cyflawn foddlonrwydd i bawb o'i ddarllenyddion, y bydd iddo roddi adeiladaeth a lles i lawer, a bod yn foddion i gadw coffadwriaeth ei wrthddrych teilwng heb ei ebargofio yn y Dywysogaeth, peri i'r eglwysi feddwl am y blaenor hwn "a draethodd iddynt air Duw, gan ystyried diwedd ei ymarweddiad, a dilyn ei ffydd a'i athrawiaeth."

Dinbych, Rhag. 29, 1841.
W. REES.