Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y RHAGYMADRODD.

ANWYL GYFEILLION,—Wrth gyflwyno y Cofiant hwn i'ch dwylaw, dymunwn arddatgan, yn

1. Fy niolchgarwch diffuant i Dduw gras a rhagluniaeth am drefnu fy "amser gosodedig, a therfynau fy mhreswylfod," o fewn cylch manteisiol i ddyfod i gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch â'r gwrthddrych teilwng y dygir ei hanes ger bron yn y tudalenau canlynol. Diau genyf fod llawer o'm brodyr yn y weinidogaeth a gydgyfranogant â mi yn y teimlad hwn. Gallaf, a dylwn gydnabod, na buaswn y peth ydwyf heddyw, oni buasai yr addysg a'r hyfforddiant a dderbyniais ganddo drwy ei bregethau a'i gyfeillach, “er nad wyf fi ddim;" a dylwn alaru hefyd na buaswn wedi sylwi, dal, a dysgu mwy tra yr oedd yn bresennol gyda ni.

2. Yr wyf yn dra diolchgar i'm brodyr yn y weinidogaeth am fy anrhydeddu â'r ymddiried pwysig o gasglu a chyhoeddi Cofiant am yr addurn penaf i'n henwad crefyddol a ymddangosodd yn y Dywysogaeth yn yr oes bresennol. Oeddwn, ac ydwyf, yn ystyried hyn yn fwy o anrhydedd nag oedd genyf hawl i'w ddysgwyl ar amryw ystyriaethau. Ymaflais yn y gorchwyl, ac aethum trwyddo, dan deimladau ofnus, rhag na byddai mewn un modd yn deilwng o'r "tywysog a'r gwr mawr yn Israel" yr amcenid iddo fod megys yn gynnrychiolydd o hono, wedi iddo ef ei hunan syrthio i fro dystawrwydd a marwoldeb. Pa beth bynag fydd barn y darllenyddion yn gyffredin am dano, amser a brawf, hyn a allaf sicrhau, ei fod cystal ag y gallaswn ei wneyd, er nad cystal ag y dymunaswn iddo fod. Ni arbedais na llafur na